Blog
Y Modd yr Esblygodd Mapio: O Fapiau Papur i Fapiau Digidol mewn Prosiectau Cymunedol
Yn y blog hwn, mae Joseph yn trafod sut y mae mapiau wedi trawsnewid o fod yn fapiau papur traddodiadol i fod yn offer mapio digidol, fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a phlatfformau ffynhonnell agored fel OpenStreetMap. Mae’n tynnu sylw at y modd y mae mapiau digidol yn gwella cywirdeb, yn hwyluso cydweithredu ac yn grymuso cymunedau i ddogfennu eu hamgylcheddau. Er gwaethaf heriau fel y gagendor digidol a phryderon yn ymwneud â phreifatrwydd data, mae technolegau datblygol fel LiDAR a Deallusrwydd Artiffisial yn cynnig cyfleoedd i wella’r modd y gellir dadansoddi data gofodol. Mae Joseph yn pwysleisio pa mor bwysig yw integreiddio gwybodaeth leol â thechnolegau mapio uwch i ategu datblygu cymunedol cynaliadwy.
Mapio drwy Lyfrynnau
Mae’r blog hwn yn archwilio’r cysyniad o lyfrynnau bach, hunan-gyhoeddedig, sy’n caniatáu i unigolion fynegi eu barn, eu straeon personol, neu brofiadau yn greadigol. Mae’n tynnu sylw at botensial creu llyfrynnau fel adnodd i fynegi barn wleidyddol, yn arbennig i bobl ifanc sy’n teimlo’n nad oes ganddynt gysylltiad â gwleidyddiaeth ffurfiol. Gan ddefnyddio profiadau personol ac estheteg wleidyddol, mae’r blog yn trafod sut y gall llyfrynnau rymuso unigolion i rannu eu safbwyntiau mewn ffyrdd hygyrch a chreadigol. Hefyd, mae’n cyflwyno prosiect yn cyfuno gweithdai creu llyfrynnau gyda mapio cyhoeddus, er mwyn arddangos profiadau a chlywed llais pobl ifanc Ynys Môn.
Curiad Calon Cymuned
Yn y blog hwn, mae Tansy Rogerson yn tynnu ar ei phrofiadau yn Gracia, Barcelona ac Otavalo, Ecuador a’i gwaith fel Mapiwr Cymunedol ar y Llwyfan Map Cyhoeddus er mwyn eirioli dros bwysigrwydd ymdeimlad o leoliad, cariad a chyfeillgarwch cymunedol, sy’n gwneud ichi deimlo eich bod yn perthyn ac yn ddiogel yng ngofal a gwarchodaeth y gymuned, sy’n gwbl ganolog.
Creu Cymuned o Fapwyr
Rydym yn creu cymuned o Fapwyr! Mae’r Llwyfan Map Cyhoeddus yn gweithio tuag at ddelfryd lle bydd modd i bawb fapio’r hyn sy’n bwysig iddynt yn yr ardal lle maent yn byw, er mwyn helpu i lunio dyfodol yr ardal honno mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw. Rydym yn gwneud hyn trwy sicrhau help ein Mapwyr Cymunedol – sef pobl leol â dealltwriaeth a gwybodaeth werthfawr am yr hyn sy’n bwysig i ddyfodol Ynys Môn.
Llunio Dyfodol Ynys Môn gyda’n Gilydd: Mae eich Barn yn Bwysig i Ni
Dewch i weld sut y gall eich llais lunio dyfodol Ynys Môn! Ymunwch â Dr. Kewei Chen a Dr. Ronita Bardhan yn eu cenhadaeth i ymchwilio i effaith y Llwyfan Map Cyhoeddus wrth iddo fynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol sy’n wynebu Ynys Môn. Cewch ddysgu pam y mae eich cyfraniad yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect a sut y gallwch helpu i greu dyfodol mwy disglair i’n cymunedau ac i’r ynys.
Mae Lle Llais wedi cyrraedd Ynys Môn!
Mae Lle Llais wedi cychwyn ar y daith trwy dirweddau hyfryd Ynys Môn! Tristian Evans sy’n ysgrifennu am gefndir a phwrpas y digwyddiadau amlsynhwyraidd hyn ar gyfer plant a phobl ifanc, fel rhan o weithgareddau ymgysylltu’r Llwyfan Map Cyhoeddus.
Taith o Greadigrwydd a Chysylltu: Dylunio ac adeiladu’r Ystafell Grwydrol Wledig, Lle Llais
Owen o PEARCE+ yn ein harwain drwy’r broses o ddylunio ac adeiladu ein hystafell grwydrol wledig, Lle Llais.
Tu hwnt i barciau a meysydd chwarae: meithrin a dathlu diwylliant chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau
Mae miloedd o blant a phobl ifanc yn eu harddegau’n dod ynghyd i ddathlu ‘Diwrnod Chwarae’ mewn digwyddiadau ledled Cymru. Mae’r diwrnod cenedlaethol i chwarae, a gynhelir ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst bob blwyddyn, yn cynnig cyfle amserol i amlygu pwysigrwydd chwarae ar gyfer plentyndod iach a hapus.
Gallwn Ni Pawb Yn awr Fod yn Fapwyr
Gydag apiau digidol, rydyn ni i gyd yn gallu mapio, ond dydy’r rhan fwyaf ohonom ni ddim. Dyma sut mae’r prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus yn mynd i helpu
Sut y gall mesur ansawdd aer ein helpu i adeiladu amgylchedd iachach
Ydych chi erioed wedi meddwl am yr aer rydyn ni'n ei anadlu y tu mewn i ysgolion? Mae ansawdd aer yn chwarae rhan hanfodol mewn iechyd a dysgu. Mae'r blog yma'n ymchwilio i'r rhesymau pam ei bod hi'n hanfodol monitro ansawdd yr aer, yn enwedig mewn mannau lle mae plant yn treulio rhan helaeth o'u diwrnod. Gall llygryddion achosi problemau anadlu ac amharu ar allu i ganolbwyntio, felly drwy fesur ansawdd yr aer cawn ysgolion sy'n iachach ac yn fwy cynhyrchiol. Gall canolbwyntio ar ysgolion, sy'n ganolfannau cymunedol, hefyd fraenaru'r tir ar gyfer ymwybyddiaeth a gweithredu ar raddfa ehangach. Darganfyddwch ffyrdd arloesol o droi gwersi gwyddoniaeth yn weithgareddau ymarferol, gan feithrin chwilfrydedd a chariad at ddysgu. Barod i wneud gwahaniaeth? Beth am inni fynd ati i gyda'n gilydd i weld sut y gallwn helpu i greu dyfodol iachach i'n plant, sy'n seiliedig ar fwy o wybodaeth.
Beth yw Map?
Caiff aelodau tîm Play:Disrupt eu hatgoffa y bydd plant wastad yn eu trechu wrth iddynt arbrofi gyda dulliau ar gyfer cydlunio mapiau digidol
Prototeipio technolegau newydd: Creu mathau newydd o fapiau sy’n archwilio cydgysylltiadau llesiant cymunedol
Mae Free Ice Cream yn sôn am yr egwyddorion a gynhwysir yn yr offer mapio cymunedol a wneir ganddynt. O wneud rhywbeth sy’n ddifyr i’w ddefnyddio, i helpu cymunedau i ofyn gwell cwestiynau ynglŷn â pham y maent yn byw fel y gwnânt. Mae’r offer mapio a ddatblygir yn y Llwyfan Map Cyhoeddus yn hynod arloesol.
Beth Ydy Cynhwysiant a Pham y Mae’n Bwysig
Mae’r blog hwn yn edrych ar bwysigrwydd a phŵer gweithio mewn modd cynhwysol o fewn tîm sy’n gweithio trwy gyfrwng dwy iaith, ar draws diwylliannau, gyda sawl sefydliad, amryw ddisgyblaethau academaidd, y mae gan bob un ei hiaith dechnegol ei hun, ynghyd ag amryw anghenion o ran mynediad a gwahanol arddulliau cyfathrebu.
Dylunio’r Caban Crwydro’r Cefn Gwlad
Gofod arloesol i ddychmygu dyfodol gwell
Ymweld â safleoedd Ynys Môn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru
Paratoi ar gyfer haf o weithgareddau gyda thaith chwiban o amgylch safleoedd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar Ynys Môn.