Grymuso Myfyrwyr o Gymru Drwy Greadigrwydd a Diwylliant
Wrth weithio fel mapiwr cymunedol i’r Platfform Map Cyhoeddus, rwy’n cael cyfleoedd i ddefnyddio fy angerdd am addysg ymarferol, gan adeiladu ar fy nghefndir mewn Astudiaethau Addysg. Mae fy niddordeb ym mhosibiliadau trawsnewidiol y cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru, yn arbennig yr agwedd flaengar tuag at addysg, yn cyd-fynd yn dda gyda chenhadaeth y Platfform Map Cyhoeddus. Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i ysgolion wella addysg disgyblion mewn ffyrdd arloesol.
Mae’r cwricwlwm Cymreig yn pwysleisio pedwar diben allweddol ar gyfer addysg, ac un o’r rhain yw i feithrin dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd. Mae’r Platfform Map Cyhoeddus yn cyd-fynd â’r weledigaeth o rymuso unigolion, a’u dysgu sut i eirioli drostynt eu hunain a rhannu eu straeon mewn prosiectau fel yr un sydd gennym ni.
Yn ystod fy ail wythnos ar y prosiect, ymwelais â Gill, bardd yn gweithio gydag Ysgol Santes Fair. Eu sesiwn olaf oedd hi, ac roeddent yn cyflwyno sioe bypedau yn cynnwys yr anifeiliaid ym Mharc Arfordir Penrhos. Roedd yr agwedd greadigol hon, a arweiniwyd gan Gill, yn dangos pa mor bwerus yw cael mynegi eu hunain yn artistig i blant Ynys Môn, er mwyn egluro’r hyn sy’n bwysig iddynt ac i ddiwallu eu hanghenion. Mae pwyslais cwricwlwm Cymru ar y celfyddydau mynegiannol yn atgyfnerthu hyn, gan nodi fod “natur ddynamig y celfyddydau mynegiannol yn ymgysylltu, ysgogi, ac annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau creadigol, artistig a pherfformio yn llawn.” Wrth weithio gyda Gill, sylweddolais pa mor hanfodol yw cadw ardal fel Parc Arfordir Penrhos ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Agwedd arall o fynegiant creadigol, sy’n cael ei phwysleisio yn y cwricwlwm, yw meithrin gwell dealltwriaeth o’n hunaniaeth ddiwylliannol a rhai pobl eraill, lleoedd, ac amser. Cyflwynodd Gill gymeriadau o lên gwerin Cymru yn y gwahanol ysgolion, fel stori Ffynnon Santes Gwenfaen yn Ysgol Santes Gwenfaen, sy’n hyrwyddo llesiant meddwl, a chwedl Santes Dwynwen yn nigwyddiadau Lle Llais yn Niwbwrch. Mae cymysgu creadigrwydd a threftadaeth ddiwylliannol yn cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion, a’r cyswllt â’u cymunedau.
Hefyd, cydweithiais â Play Disrupt mewn cyfres o weithdai, a chael y cyfle i arwain gweithdy yn ystod y digwyddiad olaf Lle Llais. Roedd hwn yn brofiad allweddol i mi, ac yn caniatáu i mi dyfu yn fy ngallu creadigol. Yn y gweithdy, bu cyfranogwyr yn creu eu ‘lleoedd pwysig’ gan ddefnyddio offer bob dydd - blociau, brigau sinamon, llinyn - oedd yn pwysleisio potensial diderfyn dychymyg plant. Bydd y creadigaethau hyn yn cael eu defnyddio i ysbrydoli’r eiconau ar y map, ac rwy’n teimlo’n gyffrous cael gweld y canlyniadau terfynol!
Rwy’n teimlo’n hynod o ffodus i gael rhoi fy ngwerthoedd a fy namcaniaethau addysgol ar waith gyda’r prosiect hwn. Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy’n teimlo’n gyffrous fel mae’r gydnabyddiaeth am bwysigrwydd arferion creadigol mewn addysg yn cynyddu. Mae creadigrwydd, nid yn unig yn gwella datblygiad yr unigolyn, ond hefyd yn cryfhau cymunedau, trwy feithrin arloesedd, cyfrifoldeb cymdeithasol, a llesiant. Mae’n chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol mwy disglair a llewyrchus i bawb.
Am ragor o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru, dilynwch y safle hwn: Y Cwricwlwm i Gymru - Hwb (gov.cymru)