Dylai’r broses ar gyfer cynllunio ein lleoedd fod yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn rymusol

Mae'r prosiect hwn yn ceisio trawsnewid system gynllunio'r DU i wireddu hyn.

Learn more

Pam Ydym Ni'n Ei Wneud?

Awaiting alt...

Bwriad cynllunio yw ein helpu i ddylunio a threfnu mannau lle gallwn ffynnu, ond mae wedi bod yn mynd yn brin yn gyson...

Dysgwch fwy

Beth Ydym Ni'n Ei Wneud?

Awaiting alt...

Rydyn ni’n defnyddio prosesau mapio agored i alluogi cymunedau i ddangos beth sy’n bwysig iddyn nhw, ac i gael llais yn y ffordd mae eu gofodau’n cael eu dylunio a’u datblygu.

Dysgwch fwy

Ble Ydym Ni'n Ei Wneud?

Awaiting alt...

Am nifer o resymau, rydym wedi dewis Ynys Môn fel y lle i ddatblygu’r prosiect hwn.

Dysgwch fwy

Blog Diweddaraf

Bu'r plant yn arolygu gwahanol leoliadau o amgylch tir yr ysgol i benderfynu ar y lle gorau ar gyfer tyrbin gwynt.

Dyfodol Gwyrdd: mapio fel cyfrwng ar gyfer hunanfynegiant a chefnogi gwneud penderfyniadau

Yn y blog hwn, mae Daniel, un o Fapwyr Cymunedol y prosiect, yn rhannu'r gwaith mae wedi bod yn ei wneud yn cyflwyno gweithdai mapio mewn ysgolion cynradd. Gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, mae'r gweithdai wedi ceisio annog plant i ymgysylltu â mapio yn eu hardaloedd lleol, a dangos sut y gall mapio fod yn gyfrwng ar gyfer hunanfynegiant a chefnogi gwneud penderfyniadau.

A photo of the person.
Daniel Hutchinson
01/05/2025
Darllen post blog

Newyddion Diweddaraf

Beth Mae Pobl yn ei Ddweud

Rwyf newydd fod yng nghyfarfod Partneriaeth Natur Leol Cymru gyfan heddiw, ac roedd ambell i berson yn siarad am ba mor gyffrous yw’r prosiect Llwyfan Map, a sut allai fod yn ‘drobwynt’ i Bartneriaethau Natur Lleol yn y dyfodol! Fe wn fod popeth yn heriol ar hyn o bryd, ond hoffwn roi gwybod ichi fod pobl â diddordeb brwd ac yn cefnogi llwyddiant y prosiect.

Aurora Hood

Swyddog Bywyd Gwyllt Lleol, Cyngor Ynys Môn

Rydym wedi cael cymaint o hwyl yn bod yn rhan o’r prosiect hwn, mae’r holl ddisgyblion wedi bod â diddordeb ym mhob gweithgaredd, o fapio eu taith i’r ysgol, mapio ardaloedd lleol sy’n bwysig iddyn nhw, mynd ar daith, i gymryd rhan yn yr ymchwil synhwyrydd aer personol - roedd y wybodaeth yma’n ddiddorol dros ben! Mae ein synhwyrydd aer yn y dosbarth wedi darparu data diddorol iawn hefyd, lle rydym wedi canfod bod CO2 yn eithaf uchel, ac felly wedi bod yn ceisio ei leihau mewn ffyrdd gwahanol, megis agor y drws, prynu planhigion, a defnyddio peiriant puro’r aer. Mae pob aelod o staff sydd wedi gweithio gyda ni wedi bod yn wych, ac mae’r gweithdai wedi bod yn hwyl aruthrol, mae’r plant wedi dysgu cymaint! Edrychwn ymlaen at gael rhagor o sesiynau gyda’r ymchwilwyr amgylcheddol yn y flwyddyn newydd. Diolch.

Mrs Mari Edwards

Ysgol Gymraeg Morswyn

Yr hyn sy’n arbennig o wych am eich prosiect yw ei fod yn ffynhonnell agored. Yn ein byd o ffiniau digidol, bydoedd ein hunain, a’r ardaloedd rydym yn byw ynddyn nhw, mae’n wych gallu rhannu a chysylltu gwybodaeth fel hyn ar draws gwasanaethau, fel bod pobl yn gallu dod o hyd i bethau yn y lleoedd maen nhw, yn hytrach na gorfod symud eu hunain yn ddigidol i ‘rywle newydd’.

Ben Freeman

Rheolwr, DASH Ceredigion

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy danysgrifio i'n rhestr bostio

Byddwn ond yn defnyddio eich manylion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y prosiect.

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.