
Dysgu Cymraeg: ffeindio fy nheimlad o le, cymuned a treftadaeth

Mi wnes i gwneud cais ar gyfer y swydd Mapiwr Cymunedol yn mis Mehefin 2024. Roedd un o’r eitemau ar y manyleb swydd cynefidra am yr iaith Cymraeg, oherwydd mae hi’n rhan bwysig o’r Llwyfan Map Cyhoeddus, ac o’r bywydau pobl ar Ynys Môn. O’n i’n wedi bod yn dysgu am tua un flwyddyn ers dw i wedi symud i Gymru, felly o’n i’n teimlo yn falch medru ateb y cwestiwn cyfweliad amdani yn Gymraeg, a chafodd y swydd.
Dw i wedi tyfy i fyny yn Loegr, ond mae Cyreictod wedi wastad bod rhan o fy hunaniaeth i, ac rhoddodd fy nhad enw canol Cymraeg i mi. Dilynodd fo y coeden teulu yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, dydy hyn ddim tasg hawdd efo cyfenw cyffredin fel Jones! Roedd fy nain siarad ‘Gog’ yn rugl, ond roedd hi’n swnio siarad Saesneg yn fwy Scaws na Cilla Black! Symodd y rhan yna o’r teulu i Lerpwl yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, yn cario eu meddiannau mewn cert llaw. Daethon nhw o Lanbadrig, mae o’n pentref ar yr ochr gogledd yr ynys. Yn ystod ymweld i’r eglwys wyntog yno sy’n edrych dros y môr, o’n i’n rhyfeddu sut oedd fy hynafiaid i yn byw a siarad Cymraeg mewn eu bywydau bob dydd. Mae’r iaith Cymraeg fel edau wedi’i gwehyddu trwy amser a gofod, yn cysylltu cenedlaethau o bobl a diwillyiant yn Ynys Môn.
Felly, pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, oedd rhwybeth cyfarwydd am yr iaith dirgel ac hynafol hyn, hyd yn oed do’n i ddim yn dealt dim byd. Mi wnes i ddechrau cwrs ar-lein ardderchog, ‘Say Something in Welsh’ ac o’n i’n trochi fy hun yn yr iaith, yn gwrando Radio Cymru bob dydd. Mi wnes i ddechrau mynd i’r grwp sgwrs ‘Panad a Moider’ ym Mangor a digwyddiadau eraill a dw i wedi cysylltu efo’r cymuned iaith Cymraeg lleol. Es i i ddau gwrs preswyl ‘Defnyddion Cymraeg Gwaith’ yn Nant Gwrtheyrn, canolfan dysgu Cymraeg ym Mhen Llŷn mewn lleoliad anhysbell a prydferth. Mae dysgu iaithoedd yn weithgaredd mor cymdeithasol, a wnes i gyfarfod bob math o bobl, sy’n dod o gwmpas y byd, dim ond jyst Cymru. Rwan hyn, dw i’n ar y safon canolradd/uwch o Gymraeg sgwrsiol, a dw I’n canmol fy llwyddiant i dreilio amser efo’r cymuned siaradwyr Cymraeg lleol. Do’n i ddim yn mynd i ddosbarthiadau nos traddodiadol o gwbl. Mae’r Gymraeg wedi ei gwehyddu i’r ffabrig bywyd bob dydd yn Ynys Môn, ac o’n i’n teimlo yn falch pan gofynnodd rhywun mewn siop yn Llangefni (rhywle dw i wedi mapio) rhywbeth yn y Gymraeg i mi, ac o’n i’n medru ymateb.
Dw i wastad wedi bod yn sensitif am ‘vibes’ am lleoedd ac eu daearyddiaeth meddyliol. Dw i wedi cael sgwrs didderol amdani efo myfyriwr Pensaernïaeth o’r Prifysgol Caergrawnt. Mi wnes i gyfarfod o llynedd yn y digwyddiad Llwyfan Map Cyhoeddus Lle Llais a siaradodd o am ei ddidordeb o am ‘teimlad o le’ a sut mae hwnna’n faes ymchwil academaidd. Dw i’n teimlo ysbryd y tir yma sydd yn Cymreig yn unigryw, mae o’n hynafol fel y môr ac y mynyddoedd. Mae’r iaith Gymraeg yn cysylltu fi i’r ysbryd hwn mewn ffordd dwys na fedra i ddim egluro yn ddigon. Un o’r pethau arbennig am Lwyfan Map Cyhoeddus ydy bod yn medru mapio pethau haniaethol fel hynny, yn ogystal â pethau materol fel tai, siopao a ffyrdd.
Yng ngeiriau Dafydd Iwan:
Byddwn yma hyd ddiwedd amser,
A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
