Llunio Dyfodol Ynys Môn gyda’n Gilydd: Mae eich Barn yn Bwysig i Ni
Yr haf hwn ar Ynys Môn, daeth ein cymuned yn fyw gyda chyfres o weithgareddau diddorol. O ddigwyddiadau bywiog y Lle Llais i sesiynau difyr mewn ysgolion a threfniadau cydweithredu gyda chwmnïau arloesol fel Play: Disrupt, gwelsom â’n llygaid ein hunain pa mor bwerus y gall cymuned fod trwy ddod ynghyd. Nid cael hwyl a sbri oedd unig nod y digwyddiadau hyn; eu bwriad oedd rhoi cyfle i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd ymhél â’r Llwyfan Map Cyhoeddus. Er bod eu cyfranogiad yn hanfodol, yn y pen draw mae llwyddiant y prosiect hwn yn dibynnu ar eich llais chi.
Dr Kewei Chen ydw i, ac mae Dr Ronita Bardhan a minnau’n arwain ymchwil effaith y Llwyfan Map Cyhoeddus. Rai misoedd yn ôl, symudais o Sheffield i Langefni er mwyn imi allu deall Ynys Môn yn well a chyfrannu’n fwy effeithiol at y prosiect hwn. Wrth imi ymgynefino, rydw i wedi sylwi ar y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng byw yn Lloegr a byw yng Nghymru, yn enwedig nodweddion unigryw Ynys Môn. Caiff fy ngwaith ar y prosiect hwn ei ysgogi gan angerdd dwfn dros ymgysylltu â’r gymuned a mynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol a wynebwn yma ar Ynys Môn. Fodd bynnag, nid fy nghyfraniad i yn unig sy’n bwysig i’r prosiect hwn – ond eich cyfraniad chi.
Rydym yn awyddus i oedolion ledled Cymru, yn enwedig rhai sy’n byw ar Ynys Môn, rannu eu barn ynglŷn â materion hollbwysig fel newid hinsawdd, pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, a sut y gallwn fynd ati’n well i gynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc wrth lunio dyfodol ein cymunedau. Bydd eich barn a’ch syniadau’n hollbwysig o ran ein helpu i greu llwyfan a fydd nid yn unig yn ymdrin ag anghenion ymarferol ond a fydd hefyd yn adlewyrchu’r gwerthoedd y gall cenedlaethau’r dyfodol elwa arnynt.
Mae dau gam yn perthyn i’n hymchwil effaith, sef: arolwg cymdeithasol eang a “map gwrth-fregusrwydd” manwl”.
Cyn parhau, hoffwn esbonio’n sydyn beth yw ystyr gwrth-fregusrwydd. Nid yw’n ymadrodd a glywir bob dydd, ond mae’n syniad perthnasol iawn i fyd sy’n wynebu amryfal argyfyngau.
Mae system gwrth-fregusrwydd yn cryfhau pan fydd hi dan straen – mae’n debyg i system imiwnedd. Os awn ati i ystyried y system imiwnedd y tu hwnt i gyrff anifeiliaid neu bobl, sut fath o beth yw system imiwnedd gymunedol? Beth sy’n achosi straen i’r gymuned? Sut mae hi’n ymateb? Beth mae hi’n ei wneud i gryfhau ar gyfer y tro nesaf y daw adfyd i’w rhan? Dyma’r pethau yr anelwn at eu deall, ac adeiladu arnynt, gyda’n map gwrth-fregusrwydd.
Yn ôl at fy nghynllun!
Mae’r cam cyntaf yn anelu at gasglu agweddau’r cyhoedd tuag at faterion hollbwysig, fel yr amgylchedd, diogelu a datblygu’r iaith Gymraeg, a dyfodol ein plant a’n pobl ifanc. Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddeall blaenoriaethau a phryderon cymunedau. Yn ystod yr ail gam, byddwn yn gwahodd cyfranogwyr â diddordeb i gymryd rhan yn y map gwrth-fregusrwydd. Bwriad y map hwn yw pennu llunwyr newid posibl ar Ynys Môn, eu cysylltu gydag eraill a’u grymuso trwy roi iddynt yr adnoddau angenrheidiol i weithredu yn ystod adegau bregus, megis yn ystod trychinebau.
Ymdrech ar y cyd yw’r prosiect hwn. Mae eich profiadau, eich dealltwriaeth a’ch barn yn hollbwysig o ran llunio llwyfan a fydd yn ein gwasanaethu ac yn esgor ar fuddion i bob un ohonom, yn awr ac yn y dyfodol.
Sut y byddaf ar fy ennill trwy gymryd rhan yn y prosiect?
- Llunio’r prosiect: Bydd eich adborth yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygu llwyfan a fydd yn ategu llesiant y gymuned, yn ymdrin â heriau amgylcheddol ac yn grymuso cenedlaethau’r dyfodol.
- Cryfhau lleisiau ieuenctid: Sicrhau y caiff plant a phobl ifanc eu cynnwys mewn modd ystyrlon mewn penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu dyfodol.
- Hyrwyddo’r iaith Gymraeg: Rhannu eich barn ynglŷn â sut y gallwn integreiddio a dathlu’r Gymraeg o fewn y prosiect.
- Rhagor o gyfleoedd: Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu ymhellach, gallwch ddewis cymryd rhan mewn gweithgareddau dilynol, fel cyfweliadau neu weithdy mapio rhwydweithiau perthynol.
- Cyflym a llawn effaith: Bydd modd llenwi ein harolwg mewn cyn lleied â 10 munud, ond bydd eich cyfraniad yn arwain at effaith barhaol.
Sut i gymryd rhan
I gymryd rhan, cliciwch ar y ddolen isod a llenwch yr arolwg. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru heddiw, gan greu dyfodol mwy disglair i’n plant a’n cymunedau.
Os ydych yn cytuno i gymryd rhan, cofiwch roi tic yn y blwch caniatâd ar ddechrau’r arolwg. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich ymatebion yn ddienw ac yn gyfrinachol.
Cymryd yr Arolwg
Diolch am eich amser a’ch cyfraniad amhrisiadwy! Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol mwy cynaliadwy a chynhwysol. Mae croeso ichi rannu’r arolwg hwn gyda’ch teulu a’ch cyfeillion.