Ap ffôn Street Complete ar gyfer casglu data OpenSteetMap yn y maes. Mae’n dangos map digidol o ardal breswyl gydag eiconau’n dangos lle mae data ar goll neu lle mae angen ei ddiweddaru.

Gallwn Ni Pawb Yn awr Fod yn Fapwyr

A photo of the person.
Prof. Scott Orford
18/7/2024

Pam Mapiau?

Mae mapiau’n bwysig. Gan ddefnyddio system arbenigol o symbolau a chonfensiynau dylunio, gallant wasgu llawer iawn o wybodaeth i ofod bach ac mae’n debyg mai dyma’r ffordd fwyaf effeithlon sydd gennym o gyflwyno data am y byd o’n cwmpas ar ddarn o bapur neu sgrin gyfrifiadurol y gall pobl ei ddeall gydag ychydig o hyfforddiant.

Maent yn cael eu defnyddio gan lu o sefydliadau, grwpiau o bobl ac unigolion ac maent wedi dod yn rhan o’n diwylliant. Maent yn cael eu defnyddio’n helaeth gan gyrff y Llywodraeth megis awdurdodau cynllunio, asiantaethau amgylcheddol, adrannau’r heddlu ac amddiffyn, trafnidiaeth a logisteg... mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Maent yn rhan o iaith arbenigol a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol yn y sefydliadau hyn i’w helpu gyda’u gweithgareddau, boed hynny’n gynllunio strategol, dyrannu adnoddau, monitro a gwerthuso, diogelu’r amgylchedd, rheoli a gweinyddu arferol, neu gasglu gwybodaeth a chreu gwybodaeth.

Mewnbwn unigryw mapiau i’r lecsicon proffesiynol hwn yw mai dyma iaith lleoedd a gofodau – sut mae lleoedd yn debyg, sut mae lleoedd yn wahanol, a ydynt yn well neu’n waeth ar fetrig penodol, a sut a pham maen nhw’n newid dros amser. Felly, mae ganddynt safle arbennig a swyddogaeth arbennig sy’n eu gwneud yn arfau pwerus wrth wneud penderfyniadau. Mae mapiau hefyd yn ddeniadol iawn o ran eu bod yn ymddangos yn wyddonol ac yn awdurdodol; mae’r wybodaeth maent yn ei chyflwyno yn aml yn cael ei thrin fel gwybodaeth sy’n gynhenid wir – gan gynrychioli’r byd go iawn yn fanwl gywir ac yn aml nid ydynt yn cael eu harchwilio i’r un graddau â dulliau cyflwyno data eraill. Yn draddodiadol, maent wedi cael eu casglu a’u llunio gan weithwyr proffesiynol sy’n gwneud mapiau sy’n gweithredu ar ran sefydliadau mawr a phwerus, fel Llywodraethau cenedlaethol, ac mae hyn wedi helpu i gyfiawnhau cywirdeb a ‘gwirionedd’ mapiau a’r byd y maent yn ei gynrychioli.

A yw Mapio Digidol yn Tarfu?

Felly... pam y cyflwyniad hwn i Fapio 101, Scott? Oherwydd bod pethau’n newid - yn gyflym - yn y byd hwn o fapiau, llunio mapiau a gwneud penderfyniadau, ac mae’r prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus wedi’i wreiddio’n gadarn yng nghanol y newidiadau hyn. Daeth y newid mawr cyntaf gyda dyfodiad Google Earth a Google Maps dros 25 mlynedd yn ôl, gan arwain at newid sylfaenol o ran pwy sy’n gallu mapio a sut rydym yn defnyddio mapiau. Mae mapiau bellach yn dreiddiol fel erioed o’r blaen – rydym yn eu cario ar ein ffonau yn ein pocedi fel mater o drefn ac rydym yn eu defnyddio i drefnu ein bywydau bob dydd, yn aml heb sylweddoli hynny.

Y newid mawr arall cysylltiedig yw’r chwyldro digidol a dyfodiad data ac adnoddau ffynhonnell agored sydd â’r potensial i rymuso a galluogi pobl a chymunedau i greu eu mapiau eu hunain a’u dosbarthu’n eang heb fawr o gost.

Mae gan y ddau newid mawr hyn y potensial i herio ac amharu’n sylfaenol ar y sefyllfa draddodiadol a’r rôl sydd gan fapiau o ran gwneud penderfyniadau ffurfiol gan y Llywodraeth a sefydliadau eraill. Gall wneud hyn drwy ganiatáu i unigolion a chymunedau greu eu mapiau eu hunain o ble maen nhw’n byw, yn gweithio ac yn chwarae, sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau eu hunain yn well ac, yn hollbwysig, yn cofnodi’r wybodaeth arbenigol, ddealledig a breintiedig sy’n deillio o fyw yn y mannau hyn sydd yn aml ar goll yn y mapiau a ddefnyddir gan y Llywodraeth a chyrff eraill. Ac oherwydd bod yr offer a’r data digidol hyn yn galluogi mapiau cymunedol i ddilyn yr un confensiynau cartograffig a dylunio â mapiau traddodiadol, mae ganddynt y gallu i siarad yr un iaith arbenigol ac felly gallant ddod yn rhan o’r lecsicon proffesiynol o wneud penderfyniadau am leoedd a gofodau ond gan ddefnyddio lleisiau gwahanol ac unigryw.

Mae gan bob un ohonom ni’r pŵer i fapio, ond dydy’r rhan fwyaf ohonom ni ddim yn gwneud hynny!

Mae hyn i gyd yn gyffrous a chadarnhaol iawn ac yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod a’i ddymuno ers tro byd mewn cylchoedd cynllunio a pholisi. OND... mae’r gair ‘posibl’ yn y paragraff blaenorol yn drymlwythog! Nid yw’n ddigon i’r technolegau data agored a digidol hyn fodoli dim ond er mwyn i bobl a chymunedau eu defnyddio i greu mapiau effeithiol a llawn gwybodaeth sy’n herio ac yn tarfu ar farn swyddogol y byd ac yn dod yn rhan ffurfiol o’r broses o wneud penderfyniadau. Mae angen i ni weithio i ddeall a yw pobl yn gallu defnyddio adnoddau digidol i fapio eu lleoedd eu hunain, nodi’r rhwystrau a’r cyfleoedd sy’n gallu eu hatal a’u galluogi i wneud hynny, a chreu adnoddau am ddim a hawdd eu defnyddio i ganiatáu i hyn ddigwydd. A dyma hanfod y prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus.

Fy rôl i yw arwain y tîm digidol ar greu a churadu’r adnoddau digidol hyn a chasglu a chatalogio storfeydd data agored am Ynys Môn. Mae hyn yn cynnwys nodi, adeiladu a defnyddio offer digidol sy’n caniatáu casglu data mapio mewn ffordd reddfol a hawdd, gan ddefnyddio meddalwedd a dyfeisiau presennol lle bo hynny’n bosibl.

Rydym wedi mabwysiadu OpenStreetMap (OSM) fel ein fframwaith mapio – dyfais o Brydain a ‘the Wikipedia of Maps’ sy’n dilyn dull gwirioneddol agored, cydweithredol a chymunedol o fapio. Mae ecosystem OSM yn cynnwys llwyfan gwe ac ap ffôn clyfar ar gyfer mapio cymunedau o bell ac yn y maes. Mae diweddariadau yn cael eu gwneud ar unwaith ac mae pwyslais gwirioneddol ar fapio nodweddion a chasglu data manwl ar asedau cymunedol lleol iawn.

Rydym yn defnyddio uMap, pen blaen i OSM sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, sy'n galluogi pobl i greu cyfuniadau o fapiau drwy ychwanegu eu data eu hunain at sylfaen map OSM. Mae hyn yn cynnwys dolenni i ddata aml-gyfrwng fel eu lluniau a’u fideos eu hunain o’u cymunedau yn ogystal â’r rheini sydd ar gael ar-lein fel ar WikiMedia. Rydym yn defnyddio Kobo, adnodd arolwg cymdeithasol rhad ac am ddim sy’n caniatáu i arolygon gael eu cydgynhyrchu gyda chymunedau lleol a chasglu’r data i’w geoleoli a’u mapio pan fyddant yn y maes. Rydym hefyd yn datblygu ein meddalwedd ein hunain a fydd yn helpu i syntheseiddio data o'r offer casglu data gwahanol hyn. Yn hollbwysig, bydd hyn yn cynnwys y Llwyfan Map Cyhoeddus ei hun – llwyfan mapio arloesol a fydd yn dod â’r holl ddata hyn at ei gilydd – o OSM, o uMap, o Kobo, o Fap Data Cymru, o Gyngor Ynys Môn, o Cyfoeth Naturiol Cymru a cheidwaid data eraill, ac o’r gwahanol weithgareddau rydyn ni’n eu gwneud mewn ysgolion, digwyddiadau Lle Llais, cymunedau lleol ac ati – i un lle ar gyfer archwilio ac arddangos gan ddefnyddio mathau newydd o symbolau a dyluniadau carograffig.

Bydd hyfforddiant ac adnoddau dysgu yn rhan annatod o’r llwyfan i roi cyfarwyddyd ac arweiniad i bobl ar sut i gasglu eu data eu hunain a gwneud eu mapiau eu hunain. Mae rhai o’r adnoddau hyn eisoes yn cael eu treialu a’u profi gan ein mapwyr cymunedol yn y maes. Felly, a yw’r prosiect yn uchelgeisiol? YDY! A yw’n hawdd? NAC YDY! Mae’n ddyddiau cynnar, ac rydym yn dal i ddarganfod y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithio gyda’r offer digidol wrth greu mapiau cymunedol. Byddwn yn gwybod yn well yn yr hydref ar ôl i’r gwaith o gasglu data dwys ddod i ben dros yr haf. Bryd hynny, byddaf yn ôl gyda diweddariad ar sut mae pethau’n mynd gyda phopeth sy’n ymwneud â mapio digidol. Dymunwch lwc dda i mi!

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.