
‘Sut gallem ni cynrychioli antur?’ Creu symbolau ar gyfer map cymunol o Ynys Môn

Ar ôl wythnos brysur yn rhedeg gweithdy creadigol gyda phobl ifanc ar draws Ynys Môn, gan gynnwys clwb ieuenctid Llangefni a’r Girlguides, daeth tîm Play:Disrupt yn ôl i’n swyddfa ym Mryste i ddechrau uwchlwytho a thrawsgrifio’r data rydym ni wedi casglu; fideos o farchogion yn bloeddio, plentyn yn siglo ar draws zipline gyda sain y gwynt, modelau o draethau, gyda sain y donnau, mainc gyda golygfa bert, a recordiadau o blant yn esbonio beth mae pob ran yn meddwl a pham. Dros y blwyddyn diwethaf, dros dwy digwyddiad ‘pop-up’ a deg gweithdy, rydym ni wedi cysylltu gyda dros 180 o blant Ynys Môn.
Roeddem ni am nid yn unig darganfod lle mae plant yn hoffi chwarae neu treulio amser, ond beth sy’n gwneud llefydd yma’n dda i chwarae ynddo, a sut gallen ni defnyddio creadigrwydd i gynrychioli llefydd yma ar y map. Disgrifiodd Malcolm sut mae dulliau ni o weithio gyda’r corff a thrwy gweithgareddau gallu cynnig atebion mwy dwfn (a mwy gwirion!) - gellir darllen mwy yn ei blog yma.
Yn ogystal â ymchwil mewn i brofion pobl ifanc o’u ardal, roeddem ni hefyd yn darganfod sut i weithio efo nhw i greu map yma; beth sy’n annog nhw i gysylltu gyda’r prosiect?
Cyn hir, daeth animeiddio, twy symudiad a sain, mewn i’r sesiynau, wrth i bobl ifanc creu symbolau bywiof i gynrychioli eu hoff llefydd ar yr ynys. Crewyd eiconau a ffilmiau byr i ddangos llefydd daearyddol, ond hefyd elfennau llai diriaethol, fel ‘rhywle llawn antur’, ‘rhywle dwi gallu neud ffrindiau newydd’, rhywle ‘dwi gallu teithio i ar ben fy hun’. Yn aml, roedd cyfranniadau yn swnio’n barddonolo pan ddisgrifiwyd beth gwnaethon nhw:
‘Dau ffrind,
pêl grisial
Golau yn symud o amgylch;
Rhywle diogel, llawenydd, hapusrwydd’
‘Tonnau - patrymau, rhythmig,
Llawer o le rhynddyn nhw,
Un cwmwl ar awyr glir glas,
Pinc - cysur a diogelwch’
‘Hwyl, cyffrous, lliwgar, clychau buddugoliaeth’
Dechreuon ni ffilmio modelu wedi eu animeiddio, ac mae’r wefan PMP yn cael ei diweddaru er mwyn gallu uwchlwytho eiconau i fap digidol o’r ynys. Pob sesiwn, roedd yna moment ‘WOW’ lle welodd pobl ifanc eu modelu yn ymddanogs ar draws y map, yn dod â bywyd iddyn nhw. Dydyn ni methu aros gweld sut mae proses yma yn newid wrth i’r gwaith a’r wefan datblygu.
Gwyliwch ein fideo isod i ddeall mwy amdano’n proses cynnar a gweld modelu bywiog wedi eu creu gan blant Ynys Môn.