Plant ar yr Wyneb: Dychmygu byd y Coblynnau yn ddwfn ym mwyngloddiau Mynydd Parys

Mapio’r Dychymyg

A photo representing the author
Gillian Brownson
6/2/2025

Tybed a wnaethoch chi ddarllen ‘James and the Giant Peach’ i’ch plentyn, neu pan oeddech chi’n blentyn? Yng nghanol y pryfed sy’n siarad, yr eirinen wlanog sy’n hedfan a’r oedolion twp, mae’r awdur yn ein pryfocio braidd: “Well, maybe it started that way. As a dream, but doesn’t everything? Those buildings. These lights. This whole city. Somebody had to dream about it first.”

Efallai fod rhai pobl yn tybio bod cynllunio adeiladau, dinas, goleuadau, a gofalu am y lleoedd hynny, yn dasg swyddogaethol, a gellir dweud yr un peth am unrhyw dref, pentref neu fan awyr agored ar Ynys Môn. Ond rydym wedi bod wrthi’n brysur yn gwahodd plant a phobl ifanc i wneud yr union bethau hyn – breuddwydio am y mannau hyn, meddwl amdanynt, a gweld beth a wnaiff ddigwydd gyda’r chwilfrydedd hwnnw fel rhan o’m Hymchwil Seiliedig ar Gelf ar gyfer haen ddiwylliannol y Llwyfan Map Cyhoeddus.

A ninnau’n meddwl ac yn teimlo chwilfrydedd gyda’n gilydd, mae’r bobl ifanc a minnau bellach yn Feirdd Cyfoes – sef meddwl am ba bynnag le y byddwn ynddo ar yr ynys, ymateb i’r lle hwnnw a defnyddio ein creadigrwydd a’n natur chwareus i adrodd ei hanesion, yn yr un modd ag y byddai Beirdd y gorffennol yn rhannu pwysigrwydd rhyw le arbennig mewn cerddi, caneuon a chwedlau.

Gyda mwy na 100 o Feirdd Ifanc mewn ysgolion, rydym wedi troi ystafelloedd dosbarth yn draethau, yn goetiroedd, yn bennau clogwyni ac yn barcdiroedd. Yn nigwyddiadau’r Lle Llais a gynhaliwyd yn ystod haf 2024, daeth y plant a’u teuluoedd am dro gyda mi i hen fwynglawdd gopr, i barc treftadaeth, i Oriel ac i goedwig. Hefyd, gweithiais gyda gwahanol grwpiau o Feirdd Ifanc dawnus mewn llyfrgelloedd.

Drwy’r adeg, rydw i wedi bod yn ceisio gweld sut y gallwn fapio’r modd y mae’r mannau hyn yn tanio dychymyg ein Beirdd Ifanc, er mwyn deall beth sydd wrth wraidd eu cyfraniadau creadigol mewn perthynas â’u hanghenion, eu dymuniadau neu eu breuddwydion. Ym mhob sesiwn, nododd pob plentyn neu berson ifanc wybodaeth ar fap analog – map rydw i’n ei alw yn ‘Fap Pob Plentyn’. Mae hyn oll yn rhan o broses ymchwil a datblygu ar gyfer Chwedl Newydd i Ynys Môn, sef prosiect a grëwyd ar y cyd gan y Beirdd Ifanc a minnau.

A hwythau wedi cael eu hysbrydoli gan y mannau yr oeddynt ynddynt ar y pryd, neu gan luniau a dynnwyd ganddynt o Ynys Môn, gan eu mannau diogel, neu gan lên gwerin, caiff pob un o’u cyfraniadau dychmygus eu cynnwys yn y chwedl newydd. Mae’r plant a’r bobl ifanc wedi defnyddio barddoniaeth, straeon, rapiau, lluniau, dramâu cysgodion a mwy i greu mannau fel ‘Y Graig Hyfryd’ a ‘Choeden Uchaf yr Ynys’, neu gymeriadau fel ‘Baban y Fôr-forwyn’, ‘Yr Ellylles’ neu ‘Y Petha Drwg’.

Caiff y lleoedd a’r cymeriadau hyn eu datblygu yn y chwedl newydd, a fydd yn sôn am ymchwil geneth alarus i ddod i adnabod ei hynys a dod o hyd i’w lle. Datblygodd hyn oll ar ôl imi gyfarfod â disgybl ysgol a ymatebodd i’r map analog trwy dynnu sylw at leoedd a oedd yn ei hatgoffa o’i Naini, a oedd wedi marw.

Oherwydd y fformat, ni fydd modd rhannu chwedl ‘Yr Eneth a’r Cerrig Gwyn’ tan fis Mawrth 2025; ond yn bwysig ddigon, ac at ddibenion ymchwil ehangach y Llwyfan Map Cyhoeddus, mae’r ysbrydoliaethau hyn sy’n seiliedig ar leoedd eisoes yn rhoi cipolwg inni ar lesiant plant a phobl ifanc, eu hymdeimlad o berthyn a’u gobeithion ar gyfer dyfodol eu hynys.

Gyda chaniatâd y Beirdd Ifanc, rydw i am rannu rhai enghreifftiau o’u cerddi bendigedig, yn y gobaith y daw’r prosiect ehangach a’i randdeiliaid yn ymwybodol o’u myfyrdodau.

Yn ein sesiwn ar gyfer Awduron Ifanc a gynhaliwyd yn Neuadd y Farchnad, Caergybi, estynnais wahoddiad i blant 7-11 oed ddewis llecyn ar y map a chreu gwaith creadigol trwy ddefnyddio unrhyw ffurf ysgrifenedig o’u dewis. Heb imi bennu tasg benodol, rhannodd un plentyn ei theimladau mewn cerdd a oedd yn sôn am goetir lleol:

I Look Towards the Trees, by M, aged 11.

When I get out of my car, I start running far,

I feel relaxed and happy, and my hands go all flappy.

I roll in the grass, my time relaxing feels longer than an hour glass.

Penrhos has something amazing,

It wriggles inside me; it gets me dazing.

Into the air I swing, on the wild swing, so much fun it makes me ping!

When I get back in my car,

I feel relaxed and grateful.

Mae’r Bardd Ifanc yn ei gosod ei hun fel arwr yng nghanol y ‘stori’ hon, ei stori hi, a gwelwn fod y coetir yn cynnig ymdeimlad o lawenydd a phŵer iddi. I mi, mae’r wybodaeth hon yn amhrisiadwy. Gwyddom fod modd mynd i’r mannau y cyfeirir atynt yn y gerdd yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd, gwyddom fod yr amser a dreulir yno yn ddigyfyngiad (nid oes angen tocyn), a gwyddom y gall y bardd ifanc deithio yno’n rhwydd mewn car a pharcio yno gyda’i theulu. Mae’r Bardd Ifanc yn dweud wrthym yn huawdl bod y lle yn gwingo oddi mewn iddi (‘wriggles inside me’), gan ei helpu i deimlo’n hapus, yn hamddenol ac yn ddiolchgar – mae’r ymatebion hyn i gyd yn ymatebion hanfodol mewn cymdeithas lle gall Anhwylder Diffyg Natur gyfrannu at iechyd meddwl niweidiol ymhlith rhai o aelodau ein cenedlaethau ifanc. Mae ‘I Look Towards the Trees’ yn cadarnhau bod mynediad parhaus at fannau gwyrdd a glas yn hollol angenrheidiol i lesiant ein plant, a bod gofalu am fannau o’r fath yn fater o bwys i ambell blentyn.

Yn yr un lleoliad, yr wythnos ganlynol, estynnwyd gwahoddiad i griw o Awduron Ifanc 12-17 oed eistedd gyda ni a siarad neu ysgrifennu. Fe wnes i, y Mapiwr Cymunedol, Aaliya McVey, yr Intern o Brifysgol Caergrawnt, Marley Lalor, a’n gwirfoddolwr ysgrifennu, Michelle Heskew, ochr yn ochr â’r Awduron Ifanc, sgrolio trwy’r lluniau ar ein ffonau. Roeddem yn chwilio am lun a dynnwyd ar yr ynys – rhywle y byddai’r bobl ifanc yn ei roi ar eu map personol. Y bwriad oedd siarad am y llun dan sylw neu ysgrifennu ymateb ecffrastig amdano.

Wrth sgrolio, cawsom nifer o drafodaethau – y ffaith bod arogl mariwana yn rhy gryf mewn rhai bysiau ysgol, diffyg siopau llyfrau ar yr ynys, yr iaith Gymraeg, sut brofiadau a gânt yn yr ysgol. Datgelwyd rhywbeth pwysig ar ôl inni ddechrau trafod ble yn union ar yr ynys sy’n teimlo’n ddiogel i’r grŵp hwn. Ymddengys mai ystafelloedd gwely’r garfan hon o bobl ifanc yw un o’r lleoedd mwyaf diogel yn eu tyb nhw, a dywedodd cyfran helaeth o’r grŵp eu bod yn dewis golygfeydd o ffenestri eu hystafelloedd gwely neu eu bod yn canolbwyntio ar luniau a dynnwyd gyda’u cyfeillion yn eu hystafelloedd:

My Bedroom by L, age 15.

It's my safe place,

My comfort place,

The place I can go whatever mood I’m in.

My favourite place.

I lunwyr polisïau, i wasanaethau pobl ifanc ac i fframwaith ehangach y rhai sy’n gweithio tuag at sicrhau llesiant ein pobl ifanc, dechreuwn feddwl yn y fan hon sut fath o le yw lle diogel, a pha un a yw eu hystafell wely, i rai pobl ifanc, yn gyfystyr â Chanolfan neu Glwb Ieuenctid.

Dywedodd rhai o Feirdd Ifanc y grŵp hwn mai unwaith yr wythnos yn unig y mae eu Clwb Ieuenctid ar gael, a hynny yn ystod tymor yr ysgol yn unig. Nid oes unrhyw beth arall ar gael yn ystod gweddill yr amser. Mae’r gerdd, a’r trafodaethau ynglŷn â’r llun a arweiniodd at y gerdd, yn ddadlennol ynddi’i hun mewn perthynas ag anghenion y Beirdd Ifanc yn eu hardal leol.

Ond nid barddoniaeth yn unig a esgorodd ar wybodaeth werthfawr. Mewn un dosbarth Blwyddyn 6 mewn ysgol yng ngogledd yr ynys, llwyddodd y ‘Map Pob Plentyn’ i ysbrydoli cyfran helaeth o’r dosbarth i siarad am ‘rywbeth’ – rhywbeth na allent ddod o hyd i iaith i’w gyfleu. Yn hytrach, soniodd y plant am ‘y petha drwg’ – ac ar ôl mynd i’r afael â rhywfaint o waith archwilio creadigol, datblygodd ‘y petha drwg’ yn fetaffor yn y Chwedl newydd, ar ffurf cymeriad sy’n gwneud i’r prif gymeriad deimlo’n anesmwyth.

Wrth i’r amser fynd heibio ac wrth ennyn ymddiriedaeth y plant yn ystod y sesiynau, dysgais mai graffiti rhywiol gyda geiriau rheg oedd y ‘petha drwg’ mewn gwirionedd – sef graffiti yn y parc gerllaw’r ysgol lle mae rhai o’r plant ifanc iawn yn chwarae. Mae’r plant hyn angen i’r oedolion yn eu bywydau sicrhau bod eu mannau chwarae yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfeillgar i blant.

Mae yna lawer o waith i’w wneud rŵan i ddwyn yr holl ymatebion hyn ynghyd yn ‘Yr Eneth a’r Cerrig Gwyn’ – cartref ar gyfer ychwaneg o drosiadau ynglŷn â safbwyntiau, teimladau a syniadau’r Beirdd Ifanc wrth i’w stori gael ei hadrodd. Wrth gwrs, bydd hyn oll yn cael ei rannu fel Ymchwil Seiliedig ar Gelf a data ar gyfer y prosiect ei hun, ond rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r stori gyda’r Beirdd Ifanc, sef cyd-grewyr y gwaith hwn, gan gynnig stori y gallant ymfalchïo ynddi – cyfle i gynnig deunydd y gallant ei ‘ddarllen er pleser’.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, mae darllen a chreu straeon yn cael effaith hynod gadarnhaol ar blant a phobl ifanc, gan roi hwb i’w hyder, eu helpu i ymlacio a mwynhau, a’u cynorthwyo i feithrin sgiliau gydol oes. I mi, fel awdur cymdeithasol, y nod yw rhoi hwb bach i lythrennedd, a fydd yn arwain at roi hwb bach i hyder, gan arwain yn y pen draw at adeiladu dyheadau iach ar gyfer y dyfodol.

Mae yna lu o enghreifftiau eraill o fyfyrdodau’r plant a’r bobl ifanc, ymhlith ymatebion creadigol eraill sy’n seiliedig ar leoedd ac a ddefnyddiwyd fel ysgogiadau neu gyfeiriadau drwy gydol y rhyngweithio. Gellir dod o hyd i’r rhain ar y Map o Fannau Creadigol yma http://u.osmfr.org/m/1058014/

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.