Tynnwyd y llun hwn yn ystod Diwrnod Cyflwyno’r Prosiect Angerdd Mapwyr. Dangosir rhai aelodau o dîm y mapwyr, ochr yn ochr â Flora – arweinydd prosiect y Llwyfan Map Cyhoeddus, Zara – Rheolwr y Gyfadran, ac Aeronwy a Fliss – Cydgysylltwyr y Prosiect.

Creu Cymuned o Fapwyr

A photo representing the author
Aeronwy Williams
14/10/2024

Mae ymchwil y Llwyfan Map Cyhoeddus yn canolbwyntio ar gymunedau Ynys Môn ac mae’n coleddu ethos ‘cydweithio’. Yn ogystal â chreu map cyhoeddus, rydym hefyd yn adeiladu cymuned o fapwyr a all gynnal y prosiect yn y tymor hir, yn ogystal â chynnal ei waddol. Awn ati i wneud hyn trwy bontio’r bwlch rhwng casglu data ac adeiladu cymuned.

Ein nod yw defnyddio’r dulliau a nodir gan dîm digidol y prosiect, gan ddefnyddio offer mapio ffynhonnell agored i sicrhau help yr holl gymuned i gasglu a chyfrannu data ystyrlon a gwirioneddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl Ynys Môn (hefyd, gweler ein blog Gallwn Ni Pawb Yn awr Fod yn Fapwyr).

Dechreuwn y siwrnai hon o fewn ein tîm Llwyfan Map Cyhoeddus ni. Rydym wedi cyflogi tair carfan o Fapwyr Cymunedol i greu tîm cryf a leolir yng nghanol yr ynys yn Llangefni. Dewiswyd y Mapwyr o blith amrywiaeth eang o ymgeiswyr ar sail eu sgiliau, eu profiadau a’u gwybodaeth amrywiol am ddiwylliant ac iaith yr ardal.

Mae’r tîm yn cynnwys nifer o unigolion sydd newydd raddio. Mae’r unigolion hyn yn addef yn agored bod y prosiect wedi eu galluogi naill ai i aros ar yr ynys neu i ddychwelyd i’r ynys – rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall oherwydd diffyg cyfleoedd swyddi i raddedigion.

Mae’r dull carfan wedi ein galluogi i roi dull dysgu a hyfforddi ‘cymheiriad i gymheiriad’ ar waith mewn perthynas â’r dechnoleg fapio. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i feithrin diwylliant addysgu cefnogol lle bydd modd trosglwyddo’r gwaith mapio i’r gymuned leol.

Mae gwybodaeth y grŵp yn llwyddo i’n syfrdanu ac i greu argraff arnom yn barhaus, ac yn ddi-os mae hyn wedi ychwanegu gwerth mawr at y broses casglu data. Bydd yn ein helpu i lunio llu o haenau map pwrpasol a gwerth chweil, gan ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth aelodau’r tîm.

Un ffordd o wneud hyn yw trwy ymgorffori haenau angerdd. Mae hyn yn galluogi’r Mapwyr i greu a chasglu data sy’n bwysig iddyn nhw a’r hyn a fydd, yn eu tyb nhw, yn werthfawr o fewn y gymuned ehangach. Maent yn ychwanegu sylwedd ac amrywiaeth o safbwyntiau at y map, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cofnodi bylchau ac yn gwneud gwahaniaeth i ardaloedd mwy difreintiedig yr ynys.

Mae meithrin ymdeimlad o gymuned yn rhywbeth a welir yn glir yn amgylchedd ein swyddfa ac rydw i’n ymfalchïo yn yr hyn a gaiff ei adeiladu a’i gyflawni gennym. Mae tîm y Mapwyr yn gweithio’n gydlynus i fapio’r ynys trwy ddefnyddio Open Street Map, gan sicrhau bod asedau cymunedol, busnesau lleol a data ffynhonnell agored yn weladwy a chan sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd i bawb.

Mae’r mapwyr yn cwmpasu pob agwedd ar y prosiect ac maent yn rhan hanfodol o’r broses fapio. Maent yn gweithio ochr yn ochr â’r meysydd Amgylcheddol, Diwylliannol a Chymdeithasol. Yn ogystal â bod yn rhan enfawr o’r gweithgareddau ymgysylltu dros yr haf. Bydd ganddynt rôl hollbwysig yng ngham nesaf y prosiect, gan weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.

Gyda’n gilydd, rydym yn creu adnodd cynaliadwy lle gall pawb fapio’r hyn sy’n bwysig iddynt mewn deialog gefnogol er mwyn helpu i lunio dyfodol yr ardal. Yn ystod y siwrnai, byddwn yn dwyn pobl, yn ogystal â data, ynghyd – rydym yn creu cymuned o Fapwyr!

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.