Tu hwnt i barciau a meysydd chwarae: meithrin a dathlu diwylliant chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau
Mae gan lawer ohonom atgofion melys o dyfu i fyny mewn amser lle’r oedd yn cael ei dderbyn y byddai plant yn chwarae yn yr awyr agored ac yn crwydro o fewn eu bro yn rhydd unwaith y byddent yn ddigon hen a hyderus i fod allan yn y byd ar eu pen eu hunain neu gyda ffrindiau, brodyr a chwiorydd. Ble wnaethoch chi ddysgu dal pêl, rhedeg, cadw’ch balans, cuddio? Beth am ddod o hyd i ffrindiau, ffraeo a gwneud ffrindiau unwaith eto? Mae’r mannau ger ein cartref a’r lle cawsom ein magu wedi bod yn lle llawn cysylltiadau erioed – llawn cuddfannau sy’n datgelu hud a lledrith pan gaiff plant ddigon o amser a rhyddid i chwarae.
Mae chwarae yn rhan ganolog o iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae astudiaethau’n dangos bod chwarae’n helpu plant i deimlo’n rhan o’u bro a’u cymuned ehangach. Mae chwarae hefyd yn cefnogi’r canlynol:
- cymdeithasoli
- gwytnwch
- iechyd a lles
- dysgu a datblygu
- hapusrwydd.
Mae ein hatgofion plentyndod o chwarae, a chael ‘anturiaethau pob dydd’ ger ein cartrefi, yn cyd-fynd yn dda gyda’r thema ar gyfer ‘Diwrnod Chwarae’ eleni. Mae’r thema’n canolbwyntio ar ddiwylliant cyfoethog a bywiog chwarae plant. Mae chwarae’n meithrin diwylliant o blentyndod. Mae chwarae yn greiddiol i fywydau plant ac yn chwarae rhan hanfodol er budd eu lles, eu hapusrwydd a’u creadigrwydd. Trwy chwarae:
- mae plant yn datblygu ymdeimlad o ddiwylliant ac yn ei werthfawrogi
- anogir plant i archwilio diwylliant, gan feithrin gwerthfawrogiad am amrywiaeth
- mae plant yn gweithio gyda’i gilydd, yn cyd-drafod ac yn meithrin perthnasau
- mae plant yn teimlo cysylltiad gyda’i gilydd a’u bro
- mae plant yn creu ac yn rhannu gemau, caneuon a straeon.
‘Rydw i wrth fy modd yn chwarae y tu allan gyda’m ffrindiau am ei fod yn hwyl a’i fod yn braf cael eu gweld unwaith eto’
Mae lleoedd croesawus a chwmni eraill i chwarae â nhw bob dydd yn dal i fod yn bwysig iawn i blant a phobl ifanc yn eu harddegau, fel y dangosir mewn adroddiad gan Chwarae Cymru, lle mae bron i 7,000 o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru yn nodi’r hyn sy’n dda am y cyfleoedd i chwarae yn eu hardaloedd lleol a pha mor fodlon ydyn nhw gyda phryd, sut a ble maen nhw’n gallu chwarae.
Yn yr arolwg, gofynnwyd i blant pa mor aml yr oeddent yn chwarae neu’n treulio amser gyda’u ffrindiau. Roedd bron i hanner y plant (42%) yn dweud eu bod yn mynd allan i chwarae neu dreulio amser gyda’u ffrindiau ar y rhan fwyaf o ddyddiau. Roedd traean arall yn chwarae yn yr awyr agored ychydig ddyddiau’r wythnos. Er hyn, mae mynediad i ardaloedd yn eu cymunedau eu hunain wedi lleihau.
Roedd y gwaith ymchwil hwn gyda phlant yn adnabod tueddiadau a materion sy’n aml yn effeithio ar allu plant i gael cyfleoedd i chwarae. Gall y rhain gynnwys:
- newidiadau mewn cymdogaethau gan gynnwys mwy o ddefnydd o geir, mwy o draffig (symudol a segur), newidiadau i batrymau gweithio
- cyfyngiadau rhieni o ganlyniad i ganfyddiad o ddiogelwch y gymdogaeth (traffig, bwlio, hiliaeth, dieithriaid)
- cynnydd mewn cyfranogiad mewn gweithgareddau strwythuredig a gofynion addysgol
- mae plant ‘allan o’u cynefin’ mewn mannau cyhoeddus, mwy a mwy o anoddefiad tuag at blant a phobl ifanc yn chwarae ac yn dod at ei gilydd.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae plant. Yn ogystal â gwaith ymchwil gyda phlant, mae pedair astudiaeth ymchwil ar raddfa fach a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru hefyd wedi cael eu cynnal ers cyflwyno Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae Llywodraeth Cymru.
Ar draws pob un o’r pedair astudiaeth ymchwil, cydnabyddir bod y Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae a’r adnoddau polisi (y rheoliadau, y cyfarwyddyd statudol, y pecyn cymorth a’r templed) yn dod i’r casgliad canlynol:
“Nid yw chwarae yn weithgaredd sy’n digwydd mewn mannau ar wahân ac ar adegau penodol yn unig; nid yw’n rhywbeth y gall oedolion ei ‘ddarparu’, yn hytrach, mae’n weithred cyd-greu sy’n manteisio ar gasgliad o ffactorau rhyngddibynnol a chydberthynol” [*1].
Mae’r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae, fel pob deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn ymwneud â phlant, yn seiliedig ar hawliau. Mewn canllawiau ynglŷn â chwarae i lywodraethau ledled y byd, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn datgan bod “plant yn chwarae ym mhle bynnag a phobman” [*2]. Mae’r datganiad hwn yn helpu i ni ddeall y cysylltiadau rhwng cynllunio cyhoeddus a chwarae.
Mae’r datganiad yn cefnogi dealltwriaeth bod chwarae’n fwy na gweithgaredd sy’n digwydd mewn mannau penodol ac ar amseroedd penodol. Mae hyn yn cael ei gydnabod yn y ddeddfwriaeth chwarae sy’n nodi’r angen ar gyfer darpariaeth chwarae benodol a’r gallu i blant chwarae y tu allan yn eu cymdogaeth. Fel y mae’r rhan fwyaf o’n hatgofion am chwarae yn ei gadarnhau, mae chwarae yn weithgarwch gofodol yn naturiol, ac mae hyn yn cynnig y cyfle delfrydol i feddwl sut mae lleoedd yn addas ar gyfer plant – neu i’r gwrthwyneb.
Mae chwarae’n rhan ganolog o fywydau plant ac yn hanfodol ar gyfer eu hiechyd, eu hapusrwydd a’u creadigrwydd. Trwy chwarae, mae plant yn teimlo cysylltiad gyda’i gilydd a’u cymdogaeth. Er bod chwarae’n dod yn reddfol i blant, mae angen cefnogaeth rhieni, gwneuthurwyr polisi a’r gymuned ehangach i sicrhau bod plant yn cael y rhyddid, lleoedd ac amser iddynt eu hunain i allu gweithredu ar eu greddfau naturiol. Bydd darparu digon o amser, lle a chaniatâd i blant chwarae mewn cymunedau sy’n gofalu amdanynt yn helpu plant i gefnogi eu hymdeimlad eu hunain o fod yn iach.
Gall y Platfform Map Cyhoeddus helpu drwy ddarparu gwell dealltwriaeth o’r ystod o fannau a lleoedd sy’n bwysig i blant. Mae’n ffordd ddelfrydol o helpu plant i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed trwy ddefnyddio dulliau ymgysylltu chwareus sy’n annog chwarae. Bydd darparu digon o gyfleoedd i blant ddweud wrthym am yr hyn sy’n bwysig iddynt ar bob lefel yn y gymdogaeth yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddatblygu dealltwriaeth fwy holistaidd o chwarae plant. Mae hyn, yn ei dro, yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws meysydd polisi i gydweithio i roi dull yn seiliedig ar asedau ar waith er mwyn sicrhau darpariaeth ar gyfer chwarae.
Mae ymdeimlad o le yn bwysig i helpu plant a phobl ifanc yn eu harddegau i deimlo’n rhan o’u bro a’u cymuned. Fel sydd wedi bod yn wir ar gyfer cenedlaethau o blant yn y gorffennol.
[*1] Lester, S. a Russell, W. (2013) Leopard Skin Wellies, a Top Hat and a Vacuum Cleaner Hose: An analysis of Wales’ Play Sufficiency Assessment duty. Caerdydd: Prifysgol Swydd Gaerloyw a Chwarae Cymru; tudalen 6
[*2] Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn CRC (2013) Sylwad cyffredinol Rhif 17 (2013) ar hawliau’r plentyn i orffwys, hamddena, chwarae, gweithgareddau hamdden, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau (erthygl 31). Geneva: Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.