
Mapio ein Ffordd Adref: Pobl Ifanc yn Ailddehongli Ynys Môn

Ym mis Rhagfyr, cefais y fraint o gynnal gweithdy creadigol yn Neuadd Bentref Llangoed ar Ynys Môn – cyfle i ddwyn ynghyd griw ysbrydoledig o bobl sy’n gweithio ar Faes Diwylliannol y Llwyfan Map Cyhoeddus ac sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino i helpu pobl ifanc i fapio ac archwilio’u cysylltiad â’r ynys anhygoel hon.
Roedd yr ystafell yn ferw egni cadarnhaol wrth i feirdd, ymchwilwyr, academyddion a thechnolegwyr rannu hanesion am yr ynys. Roedd yna ymdeimlad cynyddol o gyd-greu, mapio naratifau’r gymuned a phlethu’r rhyngweithio niferus ac amrywiol gyda’r plant a’r bobl ifanc yn eu lle nhw – gan ailddarganfod natur a threftadaeth leol trwy gyfrwng prosiectau creadigol mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol ac ym mhedwar digwyddiad y Lle Llais a gynhaliwyd yn ystod haf 2024.
Ond doeddwn i ddim yn disgwyl i hanesion unigol y plant a’r bobl ifanc ysgwyd cymaint arnaf – hanesion am chwilfrydedd y plant a’u holgarwch naturiol a’r modd yr oeddynt wedi creu mapiau artistig â haenau gwahanol trwy gyfuno’u trefn ddyddiol gyda llên gwerin, cuddfannau dirgel a’u hoff fannau ymgynnull. O “fapiau mynegiannol” o’u cymdogaethau a baentiwyd/tynnwyd â llaw i “fapiau stori” a oedd yn olrhain hen chwedlau Cymru (a chwedlau newydd) ar draws y tirlun modern – llwyddodd dehongliadau’r plant i ddatgelu pa mor bersonol y gall daearyddiaeth fod.
Mae’r tri bardd, sef Gillian, Lisa a Rhys, wedi defnyddio’u doniau dihafal i gyfareddu o’r newydd y modd rydym yn dirnad mannau cyfarwydd – o lecynnau tawel Niwbwrch i dirwedd unigryw a moel Mynydd Parys, o Langoed i Gaergybi a llawer mwy o safleoedd eraill ledled yr ynys. Cawsom ein hatgoffa y gall llygaid ifanc, trwy roi dulliau creadigol ar waith, droi’r cyffredin yn anghyffredin.
Rhannodd yr ymchwilwyr Caitlin Shepherd a Tristian Evans wybodaeth hynod ddiddorol am y modd y mae’r gweithgareddau ymgysylltu synhwyraidd a’r dulliau mapio creadigol hyn yn esgor ar ddeialog hyfryd ynglŷn â chreu lleoedd rhwng y gorffennol a’r presennol. Bydd yr elfennau cartograffig creadigol hyn yn arfau pwerus ar gyfer deall y modd y mae pobl ifanc yn dirnad, yn deall ac yn hawlio’u mannau ar yr ynys.
Yn ystod y prynhawn, daeth y tîm ynghyd i fynd i’r afael â chwestiynau a oedd yn gofyn ‘pa wahaniaeth?’ ac i drafod y pethau a ddaw i’r fei yn ystod y prosiect, trwy ddefnyddio ffyrdd creadigol o gasglu data.
Datgelodd y gweithdy fod mapio artistig yn golygu mwy na chofnodi mannau ffisegol yn unig – mae a wnelo mapio artistig â chofnodi’r elfennau anweledig hynny (megis emosiynau, atgofion a chymunedau) sy’n troi Ynys Môn yn gartref. Wrth inni symud ymlaen, mae’r mentrau cydweithredol hyn yn parhau i greu atlas amlhaenog a chyfoethog o ddyfodol yr ynys – lle mae safbwynt pob person ifanc yn helpu i oleuo’r llwybr sydd o’n blaenau.
Diolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r gweithdy.