Taith o Greadigrwydd a Chysylltu: Dylunio ac adeiladu’r Ystafell Grwydrol Wledig, Lle Llais
Mae Lle Llais yn ofod symudol arloesol, yn un o nodweddion allweddol y prosiect Platfform Map Cyhoeddus, a dyma’r prif ffocws ar gyfer cyfres o weithdai a gynhaliwyd ar Ynys Môn yn ystod haf 2024. Mae’r prosiect, a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan benseiri Pearce+ ac Invisible Studio, yn ymgorffori creadigrwydd, cymuned ac ysbryd cydweithio.
Dechreuodd y siwrnai gyda gweithdy cyd-greu yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, lle ymunodd Pearce+, Lean Structures, Onion Collective ac Invisible Studios â phlant lleol. Trwy rannu lluniau, creu modelau, trafod, chwarae, a gwaith creu ymarferol, crëwyd ystod o syniadau a deunyddiau. Dros gyfnod o ddeuddydd, fe wnaethon nhw ddarlunio lle i feithrin dyfodol disglair lle’r oedd modd i ddeialog a chreadigrwydd ffynnu.
Roedd cynnig y tîm yn cyfuno dyluniad hyblyg, cain wedi’i ysbrydoli gan henebion cynhanesyddol cyfoethog Ynys Môn. Mae’r rhain yn amrywio o feini hirion unigol i glystyrau o gerrig a siambrau claddu. Nod Lle Llais yw ceisio efelychu chwilfrydedd a rhai cysegredig y strwythurau hynafol hyn ar ffurf pum ffrâm wau o feintiau amrywiol wedi’u gwneud o bren. Gellir troi’r fframiau gwau hyn a’u lleoli’n benodol ar gyfer pob Digwyddiad Mapio Cyhoeddus, a gall gwirfoddolwyr eu gosod i’r cyhoedd gal eu darganfod, gan annog archwilio ac ymgysylltu.
Gan deithio ar draws Ynys Môn, mae Lle Llais yn ymweld ag ecosystemau amrywiol, gan ddefnyddio deunyddiau – gwastraff a naturiol – a gafodd eu casglu ynghyd a’u cydblethu ar y fframiau gwau. Mae’r broses hon o greu ar y cyd yn goresgyn rhwystrau cymdeithasol ac yn sbarduno sgyrsiau na fyddai’n digwydd fel arall.
Ystyriwyd sawl fersiwn o’r dyluniad, ond roedd y dyluniad terfynol yn cynnwys pum ffrâm wau, a phob yn ffitio ar drelar gwastad. Mae pob un o’r fframiau gwau yn dilyn yr un egwyddor strwythurol, gyda phum asen wedi’u plygu â stem a’u lamineiddio wedi’u cysylltu gan ddelltennau o wahanol ddyfnder. Mae’r asennau’n dod ynghyd mewn strwythur dur gydag olwynion i’w alluogi i symud yn rhwydd. Gellir codi pob un o’r fframiau gwau i safle fertigol, gyda’r talaf bron i chwe metr o daldra. Mae’r asennau wedi cael eu bolltio yn eu lle, ac mae powltiau llygadog wedi’u gosod arnynt i hongian rhaffau, baneri, lluniau a bynting a grëir yn ystod y gweithdai.
Mae Pearce+ ac Invisible Studio yn rhannu angerdd dros brosesau ‘dylunio ac adeiladu’ arbrofol, gan wthio ffiniau dylunio drwy dechnegau creu. Datblygwyd y cysyniad dylunio a’r technegau adeiladu ar yr un pryd, gan annog unigoliaeth a hunan-benderfyniad ymysg y rhai a fu’n cymryd rhan. Er enghraifft, gosododd pedwar aelod gwahanol o’r tîm y delltennau asymetrig, a phob un gyda gwahanol flaenoriaethau: sythder strwythurol, symlrwydd, a rhyngweithiad gyda’r cyhoedd. Arweiniodd hyn at greu fframiau gwau amrywiol ac unigryw.
Defnyddiwyd model cyfrifiannol i helpu i leoli, pennu maint a chydlynu’r fframiau gwau. Cafodd crymedd pob asen ei addasu’n gywrain i ffitio’n dda ar y trelar, gan fodloni gofynion strwythurol ac edrych yn ddeniadol. Roedd darluniau manwl yn darparu rhestrau torri a thempledi ar gyfer pob asen, gan arwain y tîm wrth iddynt stemio a lamineiddio’r pren.
Yng nghefn gwlad Swydd Henffordd, daeth y tîm ynghyd yng ngweithdy Pearce+ gan ddefnyddio sied ddefaid i adeiladu. Dewiswyd byrddau coed ynn addas o felin goed Whitney Sawmills, o ganlyniad i graen syth a dwysedd cyson y pren, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer plygu â stem. Roedd angen pedwar dellten ar bob asen, wedi’u gludo gyda’i gilydd ar ffurf haeniadau, wedi’u prosesu i greu gorffeniad llyfn yn barod i’w stemio a’u plygu.
Crëwyd jigiau i’r radiws cywir, ac fe adeiladwyd blwch stemio wedi’i inswleiddio i gyrraedd a chadw tymheredd o 100 gradd Celsius. Roedd angen mwy o amser stemio ar rai o’r darnau mwy er mwyn iddynt ddod yn fwy hyblyg. Ar ôl eu stemio, cafodd y delltennau eu plygu a’u clampio yn eu lle, a’u gosod o’r neilltu i sychu cyn cael eu stemio unwaith eto. Ar ôl sychu, cafodd pob asen ei sandio, ei rigoli a’i orffen gydag olew naturiol.
Roedd y gwaith metel, a gynhyrchwyd gan Morrish yn Tiverton, wedi’i wneud o ddur ysgafn 5mm wedi’i chwistrellu â phaent ocsid coch. Dechreuodd y gwaith adeiladu drwy osod yr olwynion a sleidio pob asen i’r gwaith metel. Cafodd y delltennau eu bolltio yn eu lle, a chafodd y trelar ei addasu i sicrhau cludiant diogel.
Roedd angen gorchudd ar gyfer y ffrâm wau fwyaf. Cafodd hen hwyliau eu pwytho a’u haddasu i greu gorchudd unigryw i warchod ymwelwyr rhag y tywydd. Bu’r tîm yn cydweithio gyda’r dylunydd gwisgoedd Isabelle Fraser i greu’r gorchudd, a’i ddiogelu yn ei le gyda wasieri a bolltau llygeidiog.
Mae Pearce+ yn stiwdio arbrofol sy’n dod â phensaernïaeth, celfyddyd y tir a chyd-greu at ei gilydd. Mae eu gwaith yn cael ei ddiffinio gan y broses yn hytrach na’r cynnyrch terfynol, gan ystyried y gwaith creu fel siwrnai o ddysgu a gwella. Mae cydweithio’n allweddol.
Bydd Lle Llais yn teithio ar draws Ynys Môn, gan gasglu atgofion, gobeithion a threftadaeth, diolch i ddwylo gweithgar a chymeriadau lliwgar sydd wedi llywio’r prosiect hwn. Dechreuodd y prosiect yn y lle cyntaf fel cydweithrediad rhwng Pearce+, Invisible Studio, a Lean Structures, ac roedd hefyd yn cynnwys gwaith dylunio cyfrifiannol Shahe Gregorian, arbenigedd trin hwyliau Isabelle Fraser, sgiliau plygu pren Joe Dickson, llafur diflino Tim Lyddon, a doethineb Ken Pearce. Dan arweiniad Flora Samuel, Caitlin Shepherd, Alec Shelpey, a Tristan Evans, daeth y broses gydweithredol agored hon â chysyniad Lle Llais yn fyw.