Montage o luniadau a llinyn

Cynlluniau cyffrous ar droed: cam 2 o'r Map Cyhoeddus

A photo of the person.
Prof. Flora Samuel
6/11/2025

Roedd y cyntaf o fis Hydref 2025 yn nodi diwedd Cam 1 y Llwyfan Map Cyhoeddus a dechrau Cam 2 gyda £3.1 miliwn o gyllid ar gyfer y 30 mis nesaf gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hyn yn gofyn aildrefnu ein tîm ac ail-gadarnhau ein hamcan canolog - cefnogi’r gwaith o ddatblygu ymddygiadau Trawsnewid Gwyrdd. Felly, beth ydym ni wedi'i gyflawni ar y prosiect ymchwil hyfryd o gyffrous hwn?

Yn gyntaf, rydym wedi adeiladu tîm o unigolion ymroddedig sydd â gweledigaeth, yn fwyaf nodedig ein Cydlynwyr lleol, ein mapwyr cymunedol, ac, wrth gwrs, y beirdd. Maent wedi bod yn addysgu mapio mewn ysgolion, gan ddatblygu a chynnig ein digwyddiadau Lle Llais a digwyddiadau pop-yp (megis yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Môn) mewn ffordd gynhwysol (gan dynnu ar arbenigedd ein cyfaill beirniadol Anne Collis). Maent yn cefnogi gyda datblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymunedol beirniadol sy'n gwybod sut i gasglu data a beth i'w wneud ag o. Rydym yn hynod falch o fod wedi creu swyddi gwerth chweil sy'n datblygu ar ddyfeisgarwch, gweledigaeth a sgiliau pobl yn yr ardal.

Ynghyd â'n tîm yng Nghaerdydd, rydym wedi bod yn datblygu adnoddau 'pecynnau addysgu' ar gyfer mapio cymunedol ac ymgysylltu'n ddwfn gyda phlant a phobl ifanc, gan weithio tuag at gael mapio digidol yn rhan o Gwricwlwm Cymru. Mae'r galw am hyfforddiant mapio cymunedol yn fawr ac yng Ngham 2 rydym yn adeiladu Cwmni Buddiant Cymunedol er mwyn cynnig hyfforddiant mapio yn eang wrth i ni weithio tuag at Gam 3. Bydd ein mapwyr yn parhau i weithio ar adeiladu mapiau a mapio mewn ffyrdd sy’n annog dulliau cynhwysol o weithio ac ymddygiadau trawsnewid gwyrdd, yn fwyaf nodedig o amgylch ffermio, bwyd, twristiaeth, gwastraff, defnydd o adnoddau ac amlygu lleisiau plant a phobl ifanc.

Mae gennym hefyd ddiddordeb mawr yn y cydadwaith amlwg sydd rhwng diwylliant lleol, iaith ac ymddygiadau trawsnewid gwyrdd. Mae ein hymchwil sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor yn dangos pan mae pobl yn gweithio yn Gymraeg, eu bod yn dangos fwy o ofal tuag at eu hamgylchedd.

Felly rydym wedi datblygu dull o wneud mapiau digidol gyda phlant a phobl ifanc, gan eu galluogi i roi'r pethau sy'n cyfrif fwyaf iddynt hwy ar y mapiau. Gan weithio gyda Play Disrupt, mae plant a phobl ifanc wedi bod yn datblygu symbolaeth wedi'i hanimeiddio ar gyfer mapiau yn seiliedig ar y pethau a ddylai fod ar y map yn eu barn nhw. Mae Free Ice Cream wedi bod yn treialu Happenings, system fapio sy'n helpu i ddwyn ynghyd data ynghylch bröydd, yn ogystal â mapio canolfannau gwytnwch ar Ynys Môn.

Yng Nghaerdydd, mae'r tîm WISERD wedi bod yn casglu cannoedd o haenau o Fap Data Cymru gan greu troshaen o hwn gyda data rydym wedi'i gasglu gan sefydliadau ar draws yr ynys, gan gynnwys dros 60 o setiau data gan Gyngor Ynys Môn a'r data hynod ronynnog rydym wedi’i gasglu gyda chymunedau. Maent wedi gallu crafu data o ddogfennau PDF a'i roi ar ffurf gofod o fewn mapiau. Rydym yn y broses o greu mapiau yn seiliedig ar Amcanion Llesiant Cymru. Bydd y rhain yn dangos i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, beth sy'n bwysig wrth gael mynediad at les yn eu hardal a helpu i ddatblygu Amcanion Llesiant. Bydd y fersiwn Beta yn cael ei chyhoeddi ac ar gael drwy'r wefan hon ym mis Ionawr.

Mae'n mynd i fod yn ddiddorol gweld ymatebion cymunedau pan maent yn gweld, er enghraifft, y lefelau peryglus o lygredd amonia sydd yn eu pentrefi (cyflawnwyd hyn drwy roi troshaen Open Street Map gyda data Cyfoeth Naturiol Cymru). Yn bwysig iawn, byddwn yn datblygu cynnig gwasanaeth er mwyn dangos sut all y Map Cyhoeddus gynorthwyo gyda Chynllunio Datblygiad Lleol cynhwysol, effeithiol a chadarn. Yn y lle cyntaf, rydym yn bwriadu agor y cannoedd o haenau anhygyrch o Gynllun Datblygu Lleol sy'n bodoli ar hyn o bryd i fod yn haenau o fapiau y mae modd eu deall.

Mae plant a phobl ifanc yn cael eu hamddifadu rhag isadeiledd cymdeithasol, llefydd i dreulio amser ynddyn nhw mewn ffyrdd diogel a chreadigol. Rydym am ddangos beth sy'n gallu digwydd pan mae stryd fawr yn cael pwrpas newydd ar gyfer dysg plant a phobl ifanc. Yn y dyfodol, bydd ein tîm yn Llangefni yn symud i siop, sef Ystafell Ynys Môn, sy'n darparu wyneb cyhoeddus ar gyfer ein gweithgareddau ymgysylltu yn unol â’r model Rhwydwaith Ystafell Drefol. Mae ystafell arall yn cael ei datblygu yn Wrecsam, wedi'i lleoli yn amgylchedd ffafriol Tŷ Pawb, gyda digwyddiadau pop-yp yn cael eu cynllunio ar draws yr ardal. Bydd ein mapwyr hefyd yn gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, Pontypridd ac amrywiaeth o gymunedau eraill. Mae arian Grant Arian Mawr ychwanegol gan Brifysgol Rhydychen yn golygu y byddwn hefyd yn hurio mapwyr cymunedol i fod yn rhan o Ystafell Caergrawnt, gan ddysgu oddi wrth y tîm mapio ar Ynys Môn, a chan ddatblygu gweithgareddau a chyfleoedd yn y ddinas fwyaf anghyfartal yma ym Mhrydain.

Diolch i waith diflino Rachel Hughes o Dotiau, ein Grŵp Cynghori Rhanbarthol a Chymru ymroddedig, bydd aelodau'n parhau i hyrwyddo'r Map Cyhoeddus o fewn Llywodraeth Cymru ar y lefelau uchaf ac ar draws sectorau cyhoeddus a gwirfoddol Cymru. Dangosodd lansiad y Map Cyhoeddus yn y Senedd yng Nghaerdydd yn ddiweddar gymaint o ddiddordeb sydd yna yn ein dull gweithredu, ac mae gennym ddisgwyliadau mawr ar gyfer y cam nesaf. Bydd Grŵp Cynghori Lleol yng nghrochan cynllunio Caergrawnt yn archwilio potensial Map Cyhoeddus yng nghyd-destun polisi tra gwahanol Caergrawnt. Mae yna ddiddordeb cynyddol yn y prosiect – byddwn yn mynd i Baris ym mis Tachwedd i siarad am ei botensial yno.

Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi ddiddordeb gweithio gyda'n mapwyr yn eich ardal.

temp alt
Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nid yw’r wefan hon yn defnyddio cwcis ac nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.