Curiad Calon Cymuned
Hyd at Ionawr 2024, roeddwn wedi treulio dros flwyddyn yn byw yng nghymdogaeth fywiog Gracia yn Barcelona, wrth astudio ar gyfer fy ngradd meistr. Yn ystod y nosweithiau cynnes, byddwn yn treulio amser yn eistedd yn un o’r sgwariau prysur a fyddai'n llawn bywyd—rhieni yn chwarae gyda phlant, plant yn mynd ar ôl colomennod, a llawer o bobl ifanc yn gorwedd yn ymlaciol ar lawr neu'n eistedd yn yr ychydig gadeiriau heb eu hawlio gan fwytai. Er gwaethaf y cymysgedd o ddiwylliannau eclectig, roedd bob amser yn teimlo bod yna ymdeimlad cryf o undod, ymhell o'r ardaloedd twristaidd.
Un o'r enghreifftiau niferus o undod cymunedol fyddai yn ystod y cyfnod cyn gŵyl flynyddol Gracia. Daeth canolbwyntiau ar gorneli rhai o’r strydoedd yn fwrlwm o weithgarwch, gyda chymuned y strydoedd yn dod at ei gilydd i ddylunio a rhoi thema ar eu strydoedd. Yn ystod wythnos y digwyddiad, byddai’r strydoedd yn atseinio gyda rhialtwch y correfoc a cherddoriaeth tapio traed, wrth i’r bobl leol adeiladu eu strwythurau cywrain a oedd wir yn arddangos creadigrwydd ac undod y gymuned.
Yn ystod fy astudiaethau, fe wnes i ddod yn ymwybodol iawn o effeithiau negyddol ac echdynnol twristiaeth, a dechreuais ddod o hyd i atebion ar gyfer model twristiaeth mwy cadarnhaol sy'n cefnogi ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at y cymunedau hynny sy’n derbyn twristiaid, a'r amgylchedd.
Pan ddaeth cyfle i mi fynd i fyw yn Ecwador gyda fy ffrind anwylaf am ychydig dros fis, ac i dreialu prosiect twristiaeth newydd yn y gymuned a oedd yn cynnwys byw gyda chymuned fynyddig yn Otavalo, wedi’i hamgylchynu gan losgfynyddoedd, neidiais arno.
Arhosais gyda theulu brodorol Cayambe, a chefais groeso cynnes iawn ganddynt. Fe wnaethon nhw fy nghyflwyno i'w cymuned glos, lle’r oedd pawb yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau nad oedd unrhyw un yn llwglyd a bod gan bawb loches. Tra’r oeddwn i yno, bûm yn helpu gyda thasgau dyddiol, godro buwch, paratoi bwyd, a helpu o gwmpas y tŷ. Yn yr ardaloedd hyn, mae bywyd yn galed ac os ydych chi'n cael eich ystyried yn ddiog neu'n annibynadwy, gall fod canlyniadau difrifol - does dim goddefgarwch dros beidio â chyfrannu.
Fe wnaethon nhw rannu eu diwylliant gyda mi a’m cofleidio fel un o’r teulu. Yr ymdeimlad cryf hwn o gymuned a'u helpodd i oroesi ac adennill eu tir oddi wrth ddeiliaid tir cyfoethog. Am flynyddoedd, buont yn brwydro dros annibyniaeth ac ennill, gan adfer y tir i’r pentref ac adfywio calon y gymuned.
Wedi i mi ymdrwytho mewn cymaint o wahanol ddiwylliannau ac wedi teimlo cynhesrwydd y cymunedau yn y mannau hyn, roeddwn i eisiau dod o hyd i waith yn y maes hwn pan ddychwelais i Gymru. Ym mis Ionawr 2024, fe wnes i ddychwelyd, a doeddwn i ddim yn barod am y newid byd. Roeddwn i'n teimlo ar goll a heb yr ymdeimlad o berthyn. Roeddwn i'n teimlo fel dieithryn yn fy ngwlad fy hun.
Roedd angen i mi ddod o hyd i ffordd i deimlo cysylltiad â'm gwlad eto a dod o hyd i waith a oedd yn ystyrlon yn fy maes arbenigol. Pan hysbysebwyd y cyfle i fod yn Fapiwr Cymunedol ar Blatfform Mapio Cyhoeddus, roeddwn i’n meddwl y gallai hwn fod yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ymdrwytho mewn cymunedau lleol, gan helpu i adrodd straeon y bobl sy’n byw yno a fyddai, mewn rhyw ffordd, yn arwain at warchod eu diwylliant cymunedol a'r amgylchedd o'u cwmpas.
Cefais fy aseinio i fapio Llangoed, pentref na wyddwn lawer amdano. Dros gyfnod o rai misoedd, rwyf wedi dod yn agos iawn at y pentref hwn, ar ôl treulio amser yn yr ysgol leol yn cefnogi un o feirdd y prosiect. Roedd yn wych bod yng nghanol egni heintus a’r balchder dros eu pentref, yn enwedig wrth i’r plant ddweud wrthym am eu hoff lefydd a ble roedden nhw’n hoffi chwarae.
Hefyd, ar ôl treulio amser ym Mhlas Bodfa yn mapio’r dirwedd arbennig iawn a chwrdd â’r teulu hyfryd sy’n byw yno, braf oedd eu clywed yn sôn am eu cartref a’u cariad at yr ardal.
Mwynheais amser gyda dau naturiaethwr lleol a roddodd daith tywys i ni o gwmpas y llefydd sy’n golygu llawer iddyn nhw yn y pentref, gan gynnwys Dawn, unigolyn anhygoel sydd wedi ymroi bron i oes o waith yn gwarchod llyffantod Llangoed, gan hyd yn oed ymgyrchu’n llwyddiannus i osod arwyddion ffyrdd er mwyn eu gwarchod.
Fe wnes i gyfarfod dynes hyfryd wrth fapio ar hyd y llwybr i lawr i'r traeth. Dywedodd wrthyf am ei hanesion teuluol a'i chariad at yr ardal. Yna mae neuadd y pentref, un o’r neuaddau hynaf sy’n dal i gael ei defnyddio ar yr Ynys, sy’n cynnal digwyddiadau rheolaidd i’r gymuned. O’ch cwmpas i gyd, rydych chi'n sylwi ar y gofal a'r balchder wrth gynnal y gwelyau blodau, plannu coed afalau, a’r basgedi crog niferus sy’n llawn blodau.
Enghraifft arall o deimlo cryfder yr ysbryd cymunedol oedd clywed straeon pobl yn ystod digwyddiadau Lle Llais. Datgelodd rhai’r brwydrau, y breuddwydion, a’r agwedd benderfynol i warchod yr hyn maent yn ei garu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Siaradodd y plant yn frwdfrydig am eu pentrefi. Sylwais pa mor rhwydd roedden nhw'n mwynhau ymwneud â'r dirwedd, hyd yn oed y rhai oedd yn betrusgar i ymuno i ddechrau.
Trwy’r prosiect hwn, rwyf wedi clywed straeon etifeddiaeth gan ynyswyr gydol oes sydd wedi cyfrannu cymaint i’w cymunedau. Roeddent yn siarad yn llawn angerdd wrth sôn am faint y mae'r lle hwn yn ei olygu iddynt, y bobl yn eu bywydau, yr hyn maent wedi'i gyflawni. Mae eu hemosiynau wedi fy nghyffwrdd – y dagrau, y chwerthin a’r balchder.
I mi, mae'r profiad hwn wedi fy helpu i ennill ymdeimlad o le, gyda chariad a choflaid gynnes y gymuned yn gwneud i chi deimlo fel eich bod perthyn, yn ddiogel, y gofal tyner, y diogelwch, y curiad calon go iawn, sef y gymuned. Hebddi, nid oes unrhyw galon, dim ymdeimlad o le a dim ymdeimlad o berthyn. Mae'n rhaid gwarchod cymunedau a'u diwylliant unigryw. Rhywbeth y gall prosiectau twristiaeth cymunedol ei gyflawni, os caiff ei wneud yn gywir.