Map model wedi'i wneud gan blant gan ddefnyddio cardbord, corc, ewyn, plastisin, papur

Mapio Cymdeithasol - Integreiddio mapio cymdeithasol mewn addysgu a dysgu

A photo of the person.
A photo of the person.
Multiple authors
22/1/2026

Nod pellach ein prosiect yw creu cyfres o adnoddau addysgiadol a dysgu gydag athrawon, arweinwyr ieuenctid, addysgwyr, rhieni, gwarcheidwaid, a gall y bobl ifanc eu hunain eu codi a’u defnyddio fel adnoddau dysgu. Byddwn yn mapio’r adnoddau hyn i’r cwricwlwm, ac yn eu hadeiladu’n becynnau priodol i'w rhannu gydag addysgwyr, ond yn y cyfamser, dyma nifer o ffyrdd y gallwch gynnwys mapio cymdeithasol mewn dysgu o fewn lleoliadau addysgu cynradd, eilradd neu amgen

O fewn y Platfform Public Map, rydym yn diffinio mapio cymdeithasol fel y broses o fapio llefydd sy’n cael eu defnyddio’n gymdeithasol ac sydd o werth cymdeithasol i blant a phobl ifanc. Yn ein blog blaenorol, rydym wedi trafod y dulliau a’r adnoddau a ddefnyddir gennym er mwyn ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc fel eu bod yn adnabod a mapio eu llefydd cymdeithasol. Y nod yw defnyddio’r data a gasglwyd gan y gwaith hwn er mwyn adeiladu’r haenau mapio cymdeithasol ar y Platfform Map Cymdeithasol - h.y. map o lefydd lle mae plant a phobl ifanc yn chwarae, yn cymdeithasu ac sy’n cael eu hystyried yn bwysig iddynt hwy.

Y bwriad yw cael gwell dealltwriaeth o’r llefydd y mae plant lleol, pobl ifanc, ac ymhen amser, oedolion, yn gweld gwerth iddynt fel mannau cymdeithasol - ac er mwyn tynnu sylw at lle y gall fod angen gwelliannau i’r gofodau hyn.

Mae datblygu’r haen mapio cymdeithasol ar y Llwyfan Map Cyhoeddus ynddo’i hun yn broses arbrofol, ac yn destun sawl her. Mae mapio llefydd cyhoeddus yn codi heriau moesegol ac yn symbylu cwestiynau pwysig ynghylch sut rydym yn diffinio ac yn rhannu gwybodaeth am le. Er enghraifft: A yw plant a phobl ifanc eisiau rhannu eu llefydd cymdeithasol yn gyhoeddus? Pa fath o fannau cymdeithasol a ddylai - neu na ddylai - fod yn weledol yn gyhoeddus? A sut allwn ni sicrhau bod y broses fapio’n cynrychioli’r gymuned leol gyfan yn deg? Dyma’r math o gwestiynau mae’r prosiect hwn yn ceisio eu harchwilio.

Y tu hwnt i hyn, nod pellach ein prosiect yw creu cyfres o adnoddau addysgiadol a dysgu gydag athrawon, arweinwyr ieuenctid, addysgwyr, rhieni, gwarcheidwaid, a gall y bobl ifanc eu hunain eu codi a’u defnyddio fel adnoddau dysgu. Byddwn yn mapio’r adnoddau hyn i’r cwricwlwm, ac yn eu hadeiladu’n becynnau priodol i'w rhannu gydag addysgwyr, ond yn y cyfamser, dyma nifer o ffyrdd y gallwch gynnwys mapio cymdeithasol mewn dysgu o fewn lleoliadau addysgu cynradd, eilradd neu amgen:

  1. Ysgrifennu ynghylch llefydd a’u darlunio: Gan ddefnyddio dulliau darlunio ac ysgrifennu creadigol, gall plant a phobl ifanc fynegi sut maen nhw’n teimlo ynghylch llefydd a sut maent yn cymdeithasu ynddynt. Gan ddefnyddio rhai o’r dulliau uchod - h.y. mapio dychymyg, neu weithio ar fapiau papur mwy am gymdogaeth neu ardal, gall mapio’r llefydd rydym yn eu hoffi, llefydd nad ydym yn eu hoffi, llefydd rydym eisiau eu gwella, a mapio sut rydym yn defnyddio llefydd, adeiladu gwell dealltwriaeth o ddaearyddiaeth lle neilltuol.
  2. Byddwch yn gynllunydd neu ddyluniwr dinesig am ddiwrnod: Gan ddefnyddio’r dull cerdded a siarad a ddisgrifiwyd yn gynharach yn y blog, gall plant a phobl ifanc asesu eu cymdogaeth er mwyn gweld pa mor briodol ydyw ar gyfer eu hanghenion eu hunain ac anghenion eraill. Mewn gwaith ymchwil blaenorol, rydym wedyn wedi dilyn y gweithgaredd hwn drwy ofyn i blant ailddylunio llefydd cyhoeddus neu barciau neu ddarlunio cynlluniau trosolwg cymdogaeth. Gall y rhain gael eu darlunio neu eu gwneud yn fodelau syml gan ddefnyddio deunyddiau gwneud modelau a chrefft sylfaenol. Gall y gweithgaredd yma eu galluogi i ddysgu sgiliau sylfaenol mewn cynllunio a dylunio dinesig, a gwerthfawrogi rhai o’r heriau ynghylch datblygu cymdogaethau, seilwaith, a sut mae gwahanol gyfleusterau’n cael eu defnyddio (neu beidio â chael eu defnyddio gan wahanol grwpiau. Gall hyn fod yn weithgaredd creadigol llawn hwyl!
  3. Creu eich map arbennig eich hun: Gellir defnyddio’r adnodd ar-lein uMap er mwyn creu pob math o fapiau pwrpasol. Mae’n bosib y byddai gan bobl ifanc hŷn yn arbennig ddiddordeb mewn creu eu prosiect eu hunain yn seiliedig ar fapio adnoddau penodol yn y gymdogaeth, problemau amgylcheddol a thraweffeithiau, neu elfennau eraill o’r gymdeithas, drwy greu eu uMap eu hunain ar y llwyfan. Gall defnyddio’r adnodd er mwyn creu eich haenau data eich hun a maes o law, mapio’r rhain - a’u defnyddio ar gyfer mapio gwaith maes mewn person gyda dyfeisiadau symudol hyd yn oed - alluogi pobl ifanc i gynhyrchu map sy’n ystyrlon iddynt a gallai ddangos peth o’u sgiliau gweithio prosiect (er enghraifft, ar gyfer prosiect Daearyddiaeth yn yr ysgol).
  4. Meddyliwch beth sydd ei angen arnoch nawr, ymhen 2-3 blynedd, ac ymhen 5+ blynedd: Gan ddefnyddio’r ymarfer blaenoriaethu pyramid a ddisgrifir yn y blog blaenorol, gall plant a phobl ifanc adnabod yr ardaloedd sydd angen eu gwella fwyaf. Gall y broses hon helpu i ddatblygu eu sgiliau negodi wrth iddynt drafod gyda chyfoedion pam fod angen rhai gwelliannau penodol a pham ddylent ddigwydd nawr. Yn ein prosiectau blaenorol, rydym hefyd wedi defnyddio ymarfer cardiau didoli lle aeth y plant ati i greu cardiau gyda’u syniadau eu hunain ar gyfer gwelliannau. Yna aethant ymlaen i ddylunio symbolau er mwyn cynrychioli’r syniadau hyn a’u categoreiddio’n flaenoriaethau tymor byr, tymor canolig a hir dymor.

temp alt
temp alt

temp alt

A hoffech chi ddenu plant a phobl ifanc at fapio cymdeithasol?

Wrth i ni orffen creu’r adnoddau addysgol yn seiliedig ar ‘fapio cymdeithasol’ o fewn y Llwyfan Mapio Cyhoeddus, gallwch archwilio pecyn cymorth rydym wedi’i gyd-gynhyrchu a’i ddefnyddio yn ein prosiectau cynharach. Mae’r pecyn cymorth, Cyd-greu Cynllun Cymdogaeth gyda Phlant a Phobl Ifanc: Pecyn Cymorth ar gyfer Cynllunwyr, Dylunwyr, Athrawon a Gweithwyr Ieuenctid, yn cynnwys cyfres arbennig o gynlluniau gweithgareddau wedi’u creu er mwyn helpu addysgwyr, dylunwyr a chynllunwyr i symbylu plant a phobl ifanc i fapio eu cymdogaeth ar hyn o bryd, gan ddychmygu gwelliannau ar gyfer y dyfodol.


Cofiwch gadw llygad ar wefan a blog y Platfform Mapio Cyhoeddus am y newyddion diweddaraf am adnoddau addysgol i athrawon ac os hoffech wybod mwy am fapio cymdeithasol, cysylltwch â ni a chyfeiriwch at yr erthygl hon.

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nid yw’r wefan hon yn defnyddio cwcis ac nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.