Map yn dangos defnydd plant o sticeri i archwilio lleoedd cymdeithasol yn eu cymdogaeth yn Ynys Môn

Mapio Cymdeithasol – sut y defnyddiwn leoedd yn gymdeithasol a sut y gellir eu mapio

A photo of the person.
A photo of the person.
Multiple authors
1/12/2025

Mae popeth a wnawn wedi’i leoli mewn lleoedd. Un o ddaliadau hollbwysig daearyddiaeth ddynol a chynllunio a dylunio trefol – sef disgyblaethau academaidd sy’n cyfrannu at y Llwyfan Map Cyhoeddus – yw bod lleoedd yn cael eu sefydlu trwy weithgarwch dynol a’u bod hwythau, yn eu tro, yn ffurfio gweithgarwch dynol. Ar y naill law, cawn ein gwneud mewn lleoedd; ac ar y llaw arall, rydym ninnau’n creu lleoedd. Mae lleoedd yn hanfodol i oroesiad bodau dynol a bywyd cymdeithasol bodau dynol.

Mae lleoedd yn gwneud gwahaniaeth i’r modd rydym yn ymddwyn yn gymdeithasol. Bydd mannau chwarae sydd wedi’u cynllunio’n dda yn annog plant i chwarae gyda’i gilydd, defnyddio sgiliau corfforol gwahanol a meithrin eu galluoedd cymdeithasol trwy chwarae. Ond bydd mannau chwarae sydd wedi’u cynllunio’n wael yn gwneud y gwrthwyneb: bydd plant yn diflasu, ac o’r herwydd bydd y mannau chwarae hynny’n cael eu hesgeuluso. Gwyddom fod lleoedd natur yn bwysig o ran cymdeithasoli, i bawb o bob oed. Nid anghyffredin yw gweld pobl ifanc yn defnyddio lleoedd natur wrth eu hymyl (traethau, llwybrau, coetir lleol) fel mannau y gallant gymdeithasu ynddynt y tu hwnt i gyrraedd oedolion; tra mae oedolion yn trysori’r lleoedd hynny ar gyfer mynd â’u plant ifanc yno i chwarae yn y mwd, i gael ymarfer corff ac i gymdeithasu gydag oedolion eraill. Mae nifer y ‘lleoedd cymdeithasol’ sydd ar gael i grwpiau arbennig yn bwysig dros ben – gwyddom nad oes hanner digon o arian yn cael ei fuddsoddi mewn lleoedd penodol ar gyfer pobl ifanc a gwyddom fod canolfannau ieuenctid wedi cau dros y degawd diwethaf gan beri i bobl ifanc deimlo nad oes ‘croeso’ iddynt mewn lleoedd a gaiff eu mynychu gan oedolion. Pan welir pobl ifanc yn treulio amser gyda’i gilydd mewn rhai cyd-destunau trefol, mae oedolion o’r farn yn aml eu bod yn niwsans neu’n fygythiol. Felly, i ble yr aiff pobl ifanc i dreulio amser gyda’i gilydd? Sut fath o leoedd cyhoeddus sydd ar gael/a ddylai fod ar gael/y gellid eu defnyddio gan bobl ifanc i gymdeithasu mewn modd diogel ond annibynnol?

Un o egwyddorion craidd y Llwyfan Map Cyhoeddus yw mapio Lleoedd Cymdeithasol, er mwyn ein helpu i ddeall yn well pa leoedd a gaiff eu trysori fel lleoedd cymdeithasol gan blant, pobl ifanc ac oedolion ifanc lleol, a ble yn eu tyb nhw y mae angen gwella lleoedd cymdeithasol. Pur anaml y mae’r wybodaeth hon ar gael i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau – cynghorau lleol, cynllunwyr ac ati – a bydd ‘haen gymdeithasol’ y Llwyfan Map Cyhoeddus yn adnodd gwerthfawr iddynt. Ond hefyd, bydd yn adnodd gwerthfawr i’r bobl leol eu hunain – ac i ryw raddau, mae’r haen mapio cymdeithasol yn rhyw fath o arbrawf o ran y modd y gall y cyhoedd ysgwyddo perchnogaeth ar fapio lleol ac, o bosibl, ar y broses benderfynu.

Sut yr awn ati i fapio lleoedd cyhoeddus?

Ar hyn o bryd, mae ein tîm o fapwyr yn creu ‘Haen Mapio Cymdeithasol’ y Llwyfan Map Cyhoeddus gyda phlant a phobl ifanc ar hyd a lled Ynys Môn. Gan weithio yn gyntaf mewn ysgolion lleol, maent wedi cynnal cyfres o weithdai gyda phlant er mwyn deall yn well sut y maent yn defnyddio lleoedd yn gymdeithasol a sut y gellir mapio’r lleoedd hynny. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio gwahanol ddulliau mapio a dulliau creadigol.

Yn y gweithdy cyntaf, caiff y plant gyfle i greu mapiau ‘dychmygus’ o’u hardal leol. Mae gwaith ymchwil blaenorol wedi dangos ei bod yn fuddiol dechrau trwy feddwl am y lleoedd y mae plant yn ymweld â nhw’n fynych a’r lleoedd y maent yn hoffi mynd iddynt, gan ddarlunio’r lleoedd hynny mewn ffordd ddychmygus a hwyliog, yn hytrach na dechrau’n syth gyda map safonol ‘o’r brig i lawr’. Mae hyn yn galluogi’r plant i ddechrau meddwl am y lleoedd sy’n agos at eu calon, sut y maent yn mynd o un lle i’r llall a’r pethau a wnânt yno, yn ogystal â rhannu’r syniadau hyn gyda’u dosbarth. Dyma un enghraifft o’r modd yr aeth un plentyn ati mewn prosiect blaenorol i ddarlunio’i ‘fap dychmygus’:

temp alt
temp alt

Yna, cyflwynwn ‘fapiau go iawn’ o leoliad neu gymdogaeth y plant. Yn aml, defnyddiwn fapiau papur ar raddfa fwy – e.e. maint A0 – y gall grwpiau o blant weithio arnynt. Gan ddefnyddio’r mapiau hyn, gofynnwn i’r plant ddod o hyd i’w cartref a’u hysgol, ac yna dechreuwn fapio ‘lleoedd cymdeithasol’ ar y mapiau. Unwaith eto, ymarfer creadigol yw hwn – rydym yn defnyddio cyfres o sticeri y gall y plant eu gosod ar y map i ddangos y lleoedd y maent yn eu hoffi a sut y maent yn defnyddio’r lleoedd hynny’n gymdeithasol, h.y. lleoedd i chwarae, cymdeithasu, cyfarfod â’r teulu, siarad Cymraeg, mwynhau mannau naturiol, teithio rhwng lleoedd ac ati (gweler ffigur 3 isod). Ond hefyd, mae modd i’r plant wneud lluniau, sgriblo a glynu nodiadau ar y map – unrhyw beth, i ddweud y gwir. Wedi’r cyfan, eu map nhw ydyw. Y syniad yw y gall plant fynegi’n ddilyffethair y modd y teimlant ynglŷn â lleoedd, a bod y map yn rhyw fath o destun siarad ar gyfer archwilio sut y mae plant yn teimlo ac yn ymddwyn yn gymdeithasol mewn lleoedd.

temp alt
temp alt

Yn y sesiwn nesaf, mae’r plant neu’r bobl ifanc yn llunio ‘taith gerdded trwy’r gymdogaeth’ sy’n eu tywys i leoedd y pennwyd eu bod yn bwysig iddynt. Gellir ymdrin â’r daith hon mewn gwahanol ffyrdd – fel ffordd o siarad am leoedd penodol tra maent yno (yn hytrach na meddwl am y lleoedd o bell), a all esgor ar syniadau a phrofiadau gwahanol. Gellir cofnodi hyn gyda lluniau neu fideos, gan fyfyrio arnynt yn nes ymlaen yn y dosbarth. Neu gall y plant gymryd arnynt eu bod yn ‘gynllunwyr trefol’ neu’n ‘ddylunwyr trefol’ am ddiwrnod, gan fynd ati i werthuso pob lle ar sail ei amwynderau a’i nodweddion ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, er enghraifft. Rydym yn defnyddio adnodd ar-lein am ddim o’r enw ‘Kobo survey’ (https://www.kobotoolbox.org) i alluogi’r plant i gofnodi eu profiadau a geoleoli’r profiadau hynny i le arbennig – fel y gellir eu mapio’n ddiweddarach.

Yn ein sesiwn derfynol, rhoddwn ddau ddull ar waith, gan ddibynnu ar y garfan benodol o blant yr ymgysylltwyd â nhw neu ar y canlyniadau a gafwyd mewn gweithdai cynharach. Yn y dull cyntaf, mae’r plant a’r bobl ifanc yn dod at ei gilydd unwaith eto (h.y. yn yr ystafell ddosbarth) i ailfapio’u cymdogaeth, eu hardal leol, neu ardal ehangach ar Ynys Môn hyd yn oed, gan ddefnyddio adnodd mapio digidol ar-lein. I’r perwyl hwn, defnyddiwn uMap (https://umap.openstreetmap.fr/en), sef platfform digidol ar-lein, rhad ac am ddim, sy’n galluogi unrhyw un i greu map pwrpasol o ryw ardal.

Gofynnwn i’r plant weithio mewn grwpiau bach i greu eu mapiau eu hunain, gan ddefnyddio popeth a ddysgwyd ganddynt yn y tair sesiwn flaenorol. Prif fantais y dechneg hon yw bod modd i’r cyfranogwyr ryngweithio gyda’r map mewn ffyrdd hyblyg – gan chwyddo i mewn ac allan, canfod mannau penodol oddi mewn ac oddi allan i’w cymdogaeth, a rhannu’r mapiau hyn gyda’u cyd-ddisgyblion. Mae’n ddull pwerus ar gyfer creu dealltwriaeth gyffredin gyflym o’r modd y gallwn ddefnyddio mannau cymdeithasol, ac mae’n galluogi’r plant i ddangos yn fanwl pa leoedd y maent yn eu hoffi a pha ardaloedd yr hoffent eu gweld yn cael eu gwella.

Yn yr ail ddull, gofynnwn i’r plant lunio rhestr o’r prif ardaloedd yr hoffent eu gweld yn cael eu gwella yn eu hamgylchedd lleol. I’r perwyl hwn, rydym yn argraffu ffotograffau a dynnwyd gan y plant neu gan ein tîm o fapwyr yn ystod eu taith gerdded trwy’r gymdogaeth. Gan weithio mewn parau, mae’r plant yn defnyddio taflen waith i nodi pa leoedd y mae gwir angen eu gwella a pha leoedd nad ydynt angen cynifer o welliannau. Yna, mae’r plant yn gwneud lluniau er mwyn dangos y newidiadau yr hoffent eu gweld yn yr ardaloedd hynny. Yn amlach na pheidio, yr unig adeg y caiff syniadau’r plant eu derbyn yw pan fônt yn cyd-fynd ag agendâu a blaenoriaethau oedolion. Mae’r dull hwn yn helpu i bennu beth sydd bwysicaf i’r plant a’r bobl ifanc eu hunain.

temp alt
temp alt

Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i gynnwys plant a phobl ifanc mewn sgyrsiau ystyrlon ynglŷn â’u cymunedau. Yn ôl athrawon a gymerodd ran mewn prosiectau blaenorol, mae integreiddio’r ymarferion hyn mewn addysgu a dysgu yn broses werthfawr iawn. Yn ein blog nesaf, byddwn yn archwilio’r gwahanol ffyrdd y gall athrawon ddefnyddio’r gweithgareddau hyn mewn lleoliadau addysgol ffurfiol a heb fod yn ffurfiol.

Os hoffech ddysgu mwy am fapio cymdeithasol yn Llwyfan Map Cyhoeddus, cysylltwch â ni a chyfeiriwch at yr erthygl hon.

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nid yw’r wefan hon yn defnyddio cwcis ac nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.