
Myfyrio ar Fapio Cymunedol: o’r cyfranogi at yr effaith

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn gweithio fel Mapiwr Cymunedol gyda’r Map Cyhoeddus, rydw i wedi cael cyfle i archwilio’r modd y gall mapio digidol rymuso cymunedau, rhannu gwybodaeth leol ac ategu penderfyniadau. Mae’r rôl wedi bod yn amrywiol ac yn hynod ddiddorol, gan roi cyfle imi fynd i ysgolion, cynghorau, a Senedd Cymru hyd yn oed, ac rydw i wedi cael cyfle i gyfrannu at amrywiaeth o brosiectau sy’n canolbwyntio ar gyfranogi, adrodd straeon ac ymwybyddiaeth o adnoddau.
Un o agweddau mwyaf gwerth chweil y rôl yw’r amrywiaeth o amgylcheddau y gellir mynd ati i’w mapio. Ar unrhyw ddiwrnod, gallwn fod yn cyflwyno gweithdy i ddisgyblion ysgol, yn hwyluso trafodaethau gydag awdurdodau lleol neu’n cyflwyno syniadau mapio mewn lleoliadau polisi. Trwy ddefnyddio adnoddau fel OpenStreetMap ac uMap, helpais y cyfranogwyr i ddelweddu eu profiadau o leoedd a chyfrannu eu gwybodaeth at fapiau digidol a rennir. Dangosodd hyn sut y gall llwyfannau mapio hygyrch alluogi pobl i gyfathrebu eu safbwyntiau ac ymgysylltu â materion sy’n effeithio ar eu hardal leol, a hynny mewn ffordd ystyrlon.
Mae nifer o brosiectau’n arbennig o gofiadwy. Llwyddodd y prosiect chwaraeon dŵr i ddatblygu set ddata gynhwysfawr o draethau, gan gasglu gwybodaeth am eu nodweddion, y defnydd a wneir ohonynt, a’u cyflwr amgylcheddol. Yn y prosiect hwn, pwysleisiwyd pa mor werthfawr yw data strwythuredig o ran deall ardaloedd arfordirol ac ategu penderfyniadau cytbwys ar gyfer y gymuned syrffio.
Yn yr un modd, llwyddodd y gêm rheoli adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer Ynys Môn i gyflwyno ffordd greadigol o feddwl am y modd y caiff adnoddau lleol eu defnyddio a’u mawrbrisio. Trwy annog y cyfranogwyr i ystyried blaenoriaethau croes, dangosodd y prosiect sut y gall mapio ategu sgyrsiau ynglŷn â chynaliadwyedd, gweithgarwch economaidd a gwydnwch cymunedol.
Hefyd, cefais gyfle i gydweithio ar brosiect mapio cerddorol gyda Tristan Evans (cyd-Fapiwr Cymunedol) i archwilio sut y gellir cysylltu allbynnau creadigol â phrofiadau sy’n seiliedig ar leoedd. Dangosodd y prosiect hwn sut y gall mapio ymestyn y tu hwnt i ddata daearyddol traddodiadol i ymgorffori’r dimensiynau artistig a diwylliannol sy’n perthyn i hunaniaeth leol.
Cyfraniad ystyrlon arall oedd cynorthwyo i ddatblygu’r Cynllun Gwobrwyo Mapwyr ochr yn ochr â’m cydweithwyr, Daniel a Kim. Roedd y cynllun yn cydnabod cyfranogiad pobl, gan annog unigolion i fagu hyder trwy ddefnyddio adnoddau mapio. Trwy weld y cyfranogwyr yn meithrin sgiliau ac yn cyflawni, dangoswyd pa mor bwysig yw cael llwybrau ymgysylltu strwythuredig, yn enwedig i’r rhai nad ydynt, ar y cychwyn efallai, yn credu y gallant gyfrannu at ddata gofodol.
Ochr yn ochr â’r prosiectau mwy hyn, dangosodd gweithgareddau eraill – fel mapio llwybrau casglu sbwriel a gweithio gydag ysgolion i ganfod pryderon amgylcheddol lleol – sut y gall mapio ategu gweithredu ymarferol. Trwy ddelweddu mannau lle ceid sbwriel neu trwy bennu ardaloedd a oedd yn dioddef llygredd, bu modd i’r cyfranogwyr ddeall y patrymau’n well ac ystyried sut y gall newidiadau bach gyfrannu at welliannau amgylcheddol ehangach.
Trwy gyfrwng y rôl hon, datblygais lu o sgiliau yn cynnwys ymgysylltu â chymunedau, cyfathrebu, hwyluso gweithdai, ymchwilio, a mapio digidol. Trwy weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, bu modd imi wella fy hyder o ran addasu gweithgareddau i weddu i wahanol gynulleidfaoedd – o ddisgyblion ysgolion cynradd i lunwyr polisïau. Trwy esbonio cysyniadau mapio i unigolion â gwahanol lefelau o brofiad technegol, cefais fy annog i gyfathrebu’n glir a chanolbwyntio ar berthnasedd mapio fel adnodd yn hytrach nag fel ymarfer technegol.
Yn bwysicach na dim, efallai, mae’r rôl wedi gwella fy nealltwriaeth o’r modd y gall gwybodaeth ofodol ddylanwadu ar benderfyniadau. Wrth fapio, nid creu allbynnau gweledol yn unig yw’r nod; mae a wnelo mapio â galluogi pobl i rannu safbwyntiau, canfod patrymau, a chael dealltwriaeth well o’r mannau lle maent yn byw ac yn gweithio. Mae hyn wedi bod yn arbennig o berthnasol o ran meithrin fy niddordeb yn yr amgylchedd adeiledig a phrosesau cynllunio.
Wrth fyfyrio ar y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i’n fwyaf balch o’r cyfle a gefais i gyfrannu at brosiectau a anogodd bobl i gyfranogi ac a dynnodd sylw at werth gwybodaeth leol. Mae’r profiad wedi dangos y gall mapio bontio cymunedau, sefydliadau a phenderfynwyr, gan helpu i sicrhau yr ystyrir amrywiaeth o leisiau wrth lunio dyfodol lleoedd.
Mae gweithio fel Mapiwr Cymunedol wedi cadarnhau fy niddordeb yn y berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd adeiledig, ac mae wedi cynnig sylfaen gref wrth imi barhau i ddatblygu fy ngyrfa. Mae’r profiad wedi dangos y gall ymgysylltu effeithiol, cyfathrebu clir a defnydd ystyrlon o adnoddau gofodol helpu i wneud pynciau cymhleth yn fwy hygyrch ac ystyrlon.
Yn gyffredinol, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos imi nad cynrychioli daearyddiaeth yn unig y mae mapiau; maent yn llwyfannau ar gyfer cydweithio, creadigrwydd a dealltwriaeth gyffredin.