
Mapio’r Trawsnewidiad Gwyrdd: pam mai stori yw’r cyswllt coll

Mae adegau yn ystod gyrfa ymchwil pan nad yw prosiect yn teimlo fel gwaith mwyach, pan mae’n dechrau teimlo fel cenhadaeth. Dyma fy sefyllfa i ar hyn o bryd - ar drothwy rhywbeth y credaf sydd o bwys gwirioneddol, wedi fy ysgogi gan gynnig o gyfle anhygoel drwy Ecosystemau Trawsnewid Gwyrdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac wedi fy ngwreiddio, a hynny’n llythrennol, yn fy milltir sgwâr.
Enw’r prosiect yw Ystafell Wrecsam, ac mae’n dechrau a chwestiwn sy’n ymddangos yn un syml: beth os oes ffordd wahanol i helpu pobl ddeall y trawsnewidiad gwyrdd, nid drwy ddata, targedau, na dogfennau polisi- ond drwy straeon?
Ers nifer o flynyddoedd bellach, rwyf wedi bod yn rhan o’r prosiect Map Cyhoeddus, ac fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae’n ymwneud â datblygu llwyfan mapio cyhoeddus sy’n gosod cymunedau (yn enwedig plant a phobl ifanc) wrth galon y ffordd yr ydym yn dogfennu, dychmygu, ac yn gwneud synnwyr o newid amgylcheddol. Mae mapiau wedi bod yn rhywbeth gwleidyddol erioed. Maent yn adlewyrchu gwybodaeth pwy sydd o bwys, tir pwy sy’n cael ei enwi, a phrofiad pwy sy’n cael ei ddangos. Mae fy ngwaith mapio cyhoeddus yn ceisio gwneud y broses honno’n fwy democrataidd - gwahodd a rhoi’r adnoddau i gymunedau fapio eu hardaloedd eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Rydym wedi gwneud hyn â chymorth Beirdd o Gymru - profiad arall yn ystod fy ngyrfa sydd wedi fy atgoffa o ba mor ffodus ydw i!
Mae Ecosystemau Trawsnewid Gwyrdd yr AHRC yn cynrychioli cyfnod hollbwysig ar gyfer y gwaith hwn. Maent yn cydnabod rhywbeth mae’r gymuned ymchwil wedi bod yn ei gylchu ers blynyddoedd: nad gwybodaeth yw’r rhwystr i newid ymddygiad gwyrdd yn aml. Mae pobl yn gwybod. Yr her yw cysylltiad -rhwng gwybod a theimlo, rhwng gweithredoedd unigolyn ac ystyr ar y cyd. Hynny’n union yw rhan naratif yn y gwaith.
Mae dull mapio’r trawsnewidiad gwyrdd sy’n adrodd naratif a straeon cyhoeddus wrth galon y gwaith hwn. Gan dynnu ar y traddodiad cyfoethog o adrodd straeon yn gymunedol a’r sail tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ynghylch naratif cyhoeddus, mae’r prosiect hwn yn gofyn beth sy’n digwydd pan fyddwn yn gwahodd dinasyddion, nid i wrando ar wybodaeth am yr amgylchedd yn unig, ond i gyfrannu eu straeon eu hunain i fap o drawsnewidiad sy’n fyw ac yn esblygu. Straeon personol. Straeon rhwng cymdogion. Straeon am golled, am addasu, ac am obaith.
Mae’r dystiolaeth yn gymhellol. Mae defnyddio naratif cyhoeddus i ymgysylltu â dinasyddion wedi dangos gallu gwirioneddol i godi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad trawsnewid gwyrdd ynghylch materion amgylcheddol mewn ffyrdd na all cyfathrebu o’r brig i lawr ei gyflawni. Pan mae rhywun yn gweld ei stryd ei hun, ei stad ei hun, a’i gymuned ei hun yn cael eu cyfleu mewn stori am hinsawdd a newid, mae rhywbeth yn digwydd. Mae syniadau haniaethol yn dod yn rhai personol. Mae materion pell yn dod yn faterion brys.
Yn Wrecsam mae hyn yn dechrau. Nid am ei bod yn dref hynod-ond am ei bod yn dref real. Tref ôl-ddiwydiannol sy’n llywio ei thrawsnewidiad ei hun, yn llawn lleisiau nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn sgyrsiau cenedlaethol ynghylch cynaliadwyedd a dyfodol gwyrdd yn aml. Mae Ystafell Wrecsam wedi’i chynllunio fel gofod - ffisegol a digidol - lle gall y lleisiau hyn gael eu casglu, eu mapio, a’u hamlygu.
Rydym ar drothwy dechreuad newydd pwysig. Mae’r sgwrs ynghylch sut gall naratif cyhoeddus fod o fudd i’r trawsnewidiad gwyrdd yn dod yn fwy agored, a bwriad y prosiect hwn yw bod yn rhan o’i llunio. Nid â sicrwydd ynghylch yr atebion, ond ag argyhoeddiad dwfn ynghylch y cwestiynau -a’r cymunedau sy’n haeddu bod wrth wraidd y gwaith o ddod o hyd iddynt.
Nid yw map yn adlewyrchiad union o unrhyw le. Ond map wedi’i greu gan y bobl sy’n byw yno? Gallai hynny newid popeth.