
Katrina Moinet: Man Ysgrifennu, Iaith, a Pherthyn ar Ynys Môn

Katrina Moinet: Man Ysgrifennu, Iaith, a Pherthyn ar Ynys Môn
Rydw i’n adnabod Katrina Moinet trwy gyfrwng y tirweddau sy’n ymddangos yn ei hysgrifennu. Rydym yn nofio yn yr un dyfroedd o amgylch Ynys Môn, ac mae’r berthynas gyffredinol honno gyda lle wedi llywio’r sgwrs hon ynglŷn ag iaith, perthyn a chymuned.
“Dydych chi ddim wastad yn gwerthfawrogi’r ardal y cawsoch eich magu ynddi hyd nes ichi ei gadael,” medd Katrina. Fel yn achos nifer o bobl eraill sy’n gadael yr ynys, teimlodd Katrina hiraeth mawr law yn llaw â’r pellter – sef ymdeimlad diamheuol Gymreig o ddyheu am gartref. Mae’r dynfa honno tuag at le yn parhau i lywio’i hysgrifennu, yn thematig ac yn emosiynol.
Yn ôl Katrina, roedd ei phlentyndod ar Ynys Môn yn hapus i raddau helaeth, er ei bod wedi’i magu ar aelwyd rhiant sengl mewn tlodi mawr. “Mi wnaeth fy mam ddewis Ynys Môn fel rhywle diogel,” esbonia. “Roeddwn i wastad yn teimlo cysylltiad efo’r tir. Roedd y mynyddoedd yn rhyw fath o darian rhyngof fi a’r pethau a oedd yn digwydd yn y byd ehangach.” Iddi hi, nid golygfeydd goddefol yw tirweddau, ond elfennau sy’n ffurfio’i hunaniaeth.
Roedd iaith yn elfen hollbwysig o’i magwraeth. Cafodd Katrina ei magu’n ddwyieithog a’i throchi yn niwylliant Cymru, ond ni fu ei phrofiad ag iaith bob amser yn syml. “Roeddwn i’n siarad efo acen Saesneg, a byddai pobl yn dweud pethau fel, ‘dos yn ôl i dy wlad dy hun’ neu ‘dwyt ti ddim yn perthyn i fa’ma’.” Mae’r profiadau cynnar hynny lle cafodd ei thrin yn wahanol oherwydd iaith yn dal i lywio’i hysgrifennu. “Mae iaith yn rhan hollbwysig o ’ngwreiddiau,” meddai, ac mae hi’n dal i archwilio hunaniaeth, grym a pherthyn trwy lens iaith.
Er bod gwaith Katrina yn canolbwyntio’n aml ar ffeministiaeth, rhywedd a phrofiadau corfforedig, mae lleoedd yn ategu’r themâu hyn yn gyson. “Mae’r personol yn wleidyddol,” meddai, yn enwedig mewn cymunedau fel Ynys Môn. “Mae’r pethau sy’n digwydd yn eich cymuned yn cael eu siapio gan y ffordd y caiff polisïau eu rhoi ar waith.” Mae hi’n myfyrio ar y tensiwn rhwng Ynys Môn fel lle o harddwch naturiol eithriadol ar y naill law a’i statws fel un o rannau tlotaf y wlad ar y llaw arall. “Rydych chi eisiau mwynhau’r dirwedd, y môr, yr awyr agored,” meddai, “ond fedrwch chi ddim anwybyddu’r realiti economaidd.”
Hefyd, mae barddoniaeth Katrina yn ymateb i faterion cymdeithasol a digwyddiadau cyfredol, yn enwedig rhai’n ymwneud â rhywedd a diogelwch. Mae hi’n cofio llofruddiaeth Sarah Everard a’r dicter cyhoeddus a ddilynodd. “Roedd hi’n warthus o beth bod y cyfryngau wedi amddiffyn Heddlu’r Met am gymaint o amser,” meddai. Fe wnaeth hyn, ynghyd â cherddoriaeth fel Walk on the Wild Side gan Lou Reed, danio ymateb o’r galon ac ymdreiddio i ddarnau perfformio. “Rhywbeth a darodd dant efo fi yw’r ffaith bod merched yn cael eu rhybuddio i fod yn gyfrifol am eu cyrff mewn mannau cyhoeddus, ond nad ydyn nhw’n cael eu hamddiffyn gan y bobl a ddylai eu hamddiffyn.” Er nad yw’n ysgrifennu barddoniaeth ddig fel rheol, gall digwyddiadau o’r fath sbarduno ymatebion uniongyrchol a thaer yn ei gwaith.
Mae cydberthnasau â lleoedd yn arbennig o ddylanwadol yn ei gwaith. Ysgrifennodd un gerdd ar ôl iddi ddod ynghyd â phobl eraill i ddathlu’r heuldro ger tomen gladdu ar Ynys Môn. “Deffrais yn gynnar a cherdded i lawr, ac roeddech chi’n medru clywed sŵn llafarganu trwy’r gwrychoedd,” meddai. “Roedd yn brofiad llawn awyrgylch.” Yr hyn a arhosodd yn ei chof oedd y ffaith bod pobl wedi dod ynghyd i ddathlu defod gyda’i gilydd. “Y peth pwysig oedd bod gyda’n gilydd a chysylltu efo natur,” meddai. “Mae gweld pobl yn cysylltu â lle yn rhywbeth ysbrydoledig iawn.”
Mae ymarfer creadigol Katrina yn perthyn i sîn barddoniaeth gyfoes ehangach sy’n ymhél yn uniongyrchol â thir, ymgyrchu a chymuned. Mae hi’n siarad yn frwd am weithio gyda’r bardd Glyn Edwards – sef bardd y mae ei waith yntau hefyd wedi ymwreiddio’n ddwfn mewn lleoedd. Ym marn Katrina, mae profiadau fel y rhain yn ategu pa mor bwysig yw rhoi sylw i dirweddau – nid fel amgylchedd yn unig, ond fel mannau byw sy’n aros yn y cof.
Hefyd, mae Katrina yn sôn am waith Tiffany Atkinson a’r dylanwad mawr a gaiff ar ei hysgrifennu. Y prif themâu yng ngwaith Atkinson yw cydsyniad ac ymreolaeth gorfforol. Yn ôl Katrina, fe wnaeth barddoniaeth Atkinson daro tant gyda hi’n syth, gan ysgogi cyfres o ymatebion yn hytrach nag un darn arbennig. I Katrina, dyma’r modd y mae barddoniaeth yn gweithio’n aml – fel sgwrs a all ddatblygu dros amser rhwng beirdd sy’n mynd i’r afael â phryderon tebyg.
Yn nes adref, mae’r sîn barddoniaeth Gymraeg gyfoes yn ffynhonnell ysbrydoliaeth barhaus i Katrina. Mae hi’n sôn yn arbennig am Ness; cafodd casgliad Ness, sef Naming the Trees, ei roi ar restr fer y ‘Forward Prize’. Mae’r casgliad yn sôn am yr ymgyrch ‘Achub Penrhos’ a oedd yn gwrthwynebu’r syniad o ddatblygu coetir hynafol yng Nghaergybi. “Mae’r gwaith hwnnw’n dangos bod modd i farddoniaeth ac ymgyrchu ddod ynghyd a helpu cymuned,” medd Katrina, gan ddweud ei fod yn enghraifft o ysgrifennu sy’n cyfranogi o ddifrif mewn gwarchod lle.
Pur anaml y bydd proses greadigol Katrina yn dechrau gyda chynllun penodol. “Weithiau, bydd gair neu ymadrodd yn tanio popeth,” esbonia. Yn aml, mae ei hysgrifennu’n ymateb yn uniongyrchol i brofiad bywyd a digwyddiadau cyfredol, yn enwedig pan fydd diogelwch, cydsyniad a mannau cyhoeddus yn croestorri. Nid yw Katrina mynd ati’n fwriadol i ysgrifennu am y themâu hyn; yn hytrach, mae hi’n dychwelyd atynt yn ddigymell. “Fel awdur, mae rhai pynciau o ddiddordeb mawr ichi,” meddai. “Fedrwch chi ddim osgoi hynny bob amser.”
Wrth archwilio lle neu syniad nad yw wedi ysgrifennu amdano o’r blaen, mae Katrina yn disgrifio ymchwil fel rhywbeth sydd wedi’i ymwreiddio mewn presenoldeb. “Rydych chi naill ai’n mynd yno’n gorfforol neu’n feddyliol,” meddai. Trwy ddefnyddio’r cof a manylion synhwyraidd, gall gwahanol leoedd orgyffwrdd, gan beri i’r naill lywio’r llall. Ar ôl i un syniad canolog ddod i’r amlwg, ceir ymdeimlad o fomentwm. “Ar ôl ichi ddod o hyd iddo, rydych yn gwybod y bydd yn tyfu’n rhywbeth arall.”
Y tu hwnt i’w hysgrifennu, mae Katrina wedi ymrwymo i gynnal mannau creadigol lleol. Mae hi’n sôn am bwysigrwydd siopau llyfrau annibynnol a lleoliadau cymunedol, yn enwedig mewn trefi sydd wedi dioddef dirywiad economaidd. “Dyna sut ydych chi’n cadw cymunedau’n fyw,” meddai, gan fyfyrio ar y gefnogaeth gynnar a gafodd a’r noson ‘meic agored’ a gaiff ei rhedeg ganddi bellach yng Nghaffi Blue Sky ar Stryd Fawr Bangor.
Nid yw Katrina o’r farn bod ei gwaith yn addfwyn nac yn addurniadol. “Dw i ddim yn ysgrifennu cerddi ‘neis neis’ y mae pawb yn eu mwynhau,” meddai, “ond mae pobl yn dweud bod fy ngwaith yn bwerus.” Iddi hi, mae’r ymateb hwnnw’n ddigon. “Rydw i’n parhau i ysgrifennu am y pethau sy’n bwysig i mi.” Wrth wneud hynny, mae ei gwaith yn mapio cydberthnasau rhwng lleoedd, iaith a phrofiad bywyd, gan ddangos y caiff tirweddau eu ffurfio nid yn unig gan ddaearyddiaeth, ond gan hanesion a adroddir gan bobl.