Rhybudd Swydd - Rydym yn Ceisio Mapwyr Cymunedol 2025
Mae’r Llwyfan Map Cyhoeddus, prosiect ymchwil mawr a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn gofyn am eich help fel mapwyr cymunedol. Mae’r prosiect cyffrous hwn yn ystyried sut i wneud ymgynghori am gynllunio yn fwy cynhwysol ledled y Deyrnas Unedig. Mae ei brosiect peilot cyntaf yn canolbwyntio ar Ynys Môn.
Bydd y mapwyr cymunedol yn gweithio mewn ysgolion, canolfannau hamdden a digwyddiadau ar hyd a lled yr ardal yn helpu plant a phobl ifanc i greu data ar gyfer ein mapiau sy’n cael eu creu gan gymunedau. Bydd tri math gwahanol o ddata yn cael eu casglu - amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Os oes unrhyw un yn well gennych, nodwch hynny yn eich cais.
Mae’r prosiect wedi’i leoli ar Ynys Môn ac yn cael ei gynnal gan dîm y Llwyfan Map Cyhoeddus yn yr Adran Bensaernïaeth, Prifysgol Caergrawnt mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerdydd a Wrecsam ac amrywiaeth helaeth o bartneriaid eraill. Rhoddir hyfforddiant llawn, o leiaf 3 diwrnod yr wythnos (0.6CALI), hyd at amser llawn - nodwch eich dewis yn eich cais.
Mae nifer o swyddi gwahanol ar gael ar sail tymor penodol hyd at 31 Gorffennaf 2025.
Bydd pob diwrnod yn dechrau ym mhencadlys y prosiect yn Medrwn Môn yn Llangefni. O ddydd i ddydd, byddwch chi’n gweithio mewn ysgolion a lleoliadau ledled yr ynys ar sail trefniadau a wneir gan ein tîm o gydlynwyr prosiect. Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn rhugl, hyblygrwydd, sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac awydd i weithio gyda’r gymuned yn sicrhau eich bod yn mwynhau’r swydd hon ac yn cael boddhad o’i chyflawni. Byddai’r swydd yn arbennig o addas i rai sydd â phrofiad o weithio mewn ystafelloedd dosbarth.
Gallai diwrnod arferol gynnwys:
- Sgwrs gyda’r cydlynwyr, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
- Gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu ‘gwersi’ mapio mewn ysgolion
- Dangos i bobl ifanc sut i ddefnyddio meddalwedd mapio a chitiau monitro amgylcheddol
- Casglu adborth am y broses mapio a bwydo’r data’n ôl i dîm y prosiect yn unol â gweithdrefnau’r prosiect
- Cynorthwyo plant i ddod yn wyddonwyr cymunedol sy’n teimlo angerdd dros ddyfodol yr ynys
- Gweithio gydag ysgolion i egluro i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sut gallan nhw greu newid yn eu cymuned eu hunain
Mae’n adeg gyffrous i fod yn ymuno â’r prosiect, yn ogystal â bod yn rhan o’r Adran Bensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Mae modd cael gwybodaeth lawn am y swydd drwy’r ddolen isod. Gweler y dudalen olaf ar gyfer ‘Sut i Ymgeisio’. Ar y ffurflen gais ar-lein, dylech egluro’r rhesymau dros ymgeisio ac amlinellu’n glir sut mae eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn cyfateb i ofynion y swydd a restrir yn y ddogfen Gwybodaeth Bellach, ynghyd a rhoi enghreifftiau perthnasol.
Cliciwch ar y botwm ‘Ymgeisio’ isod i gofrestru cyfrif gyda’n system recriwtio (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes) ac i ymgeisio ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (BST) ddydd 10fed o Ebrill 2024. Byddwn ni’n bwrw golwg ar geisiadau am y swydd hon yn rheolaidd. Rydym yn cadw’r hawl i ddod â’r trefniadau penodi i ben yn gynnar os bydd pob swydd wedi’i llenwi. Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â’r broses ymgeisio, e-bostiwch sahhr@admin.cam.ac.uk.
Nodwch y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y swydd hon.
Dyfynnwch gyfeirnod GB38502 ar eich cais ac mewn unrhyw ohebiaeth ynglŷn â’r swydd wag hon.
Mae’r Brifysgol yn rhagweithiol yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae’n annog ceisiadau o bob rhan o gymdeithas.
Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i sicrhau bod ei holl weithwyr cyflogedig yn gymwys i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig.