
Enillwyr Gwobrau Cenedlaethol Inspire!

Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael gwobr Thorton Education Trust Inspire Future Generations, yn y categori Deunyddiau ac Adnoddau am ein gwaith ar y defnydd o symbolau!
Mae Gwobrau Inspire Future Generations yn cydnabod rhagoriaeth ac effaith o ran grymuso plant a phobl ifanc i eirioli dros amgylchedd adeiledig gwell.
Pwysleisiodd beirniaid mai “Prosiect arloesol tymor hir sy’n rhoi awdurdod i blant dros sut i gyfathrebu drwy symbolau a mapiau i adlewyrchu eu teimladau a’u dyheadau ar gyfer mannau cyhoeddus” yw hwn. Sicrhaodd y tîm broses gynhwysol a oedd yn cynrychioli lleisiau a allai gael fod yn cael eu colli fel arfer.”
“Mae’n tynnu sylw...mae’n deffro rhywbeth yn fy ymennydd” - Arweinydd Dyfodol Barnardo’s, wrth egluro effaith creu symbolau’n ymarferol.
Os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith ar y defnydd o symbolau, darllenwch ein blog: Creu mapiau sy’n symud.