
Grymuso Plant a Addysgir yn y Cartref i ddweud eu dweud a dod yn fapwyr

Prosiect sy’n grymuso pobl ifanc a addysgir yn y cartref i ddweud eu dweud ynglŷn â’u milltir sgwâr trwy ddod yn Fapwyr eu hunain — dyna yw’r prosiect Troi Plant a Addysgir yn y Cartref yn Fapwyr. Nod y prosiect yw creu criw o fapwyr ifanc a all barhau i fapio yn y dyfodol, gan obeithio meithrin gwaddol hirdymor y Map Cyhoeddus.
Yn y gweithdai, archwiliodd y plant beth yn union yw mapiau a sut y gellir eu defnyddio, ac fel grŵp aethom ati i drafod a herio rhagdybiaethau ynglŷn â mapiau.
Hefyd, aeth y plant ati i greu eu haenau Umap eu hunain yn ymwneud â’u profiadau unigol o Ynys Môn. Mae eu haenau Umap yn darlunio’u profiadau, ynghyd â chyfnodau cofiadwy, mannau o ddiddordeb, eu barn ynglŷn â lleoedd, a lleoliadau ar Ynys Môn. Mae’r prosiect Troi Plant a Addysgir yn y Cartref yn Fapwyr yn cynnwys llu o brofiadau a chyfnodau cofiadwy a gofnodwyd trwy ddefnyddio delweddau, testun disgrifiadol, symbolau a lliw.
Roedd y plant yn dymuno archwilio’u Umap gyda’i gilydd, gan ei ddefnyddio i ysbrydoli gwaith celf gweledol trwy ddefnyddio siapiau, patrymau, llinellau a lliwiau a nodwyd ar eu Umap. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i greu cynrychioliad artistig o’u profiadau.
Tra mae’r gweithdai’n cyfrannu at Fap Cyhoeddus a fydd, gobeithio, yn llywio neu’n dylanwadu ar waith cynllunio ar Ynys Môn yn y dyfodol, mae’r plant hefyd wedi datblygu adnoddau gwych ac wedi ehangu eu profiadau addysgol. Mae’r gweithdai wedi cynnig cyfleoedd i’r bobl ifanc hyn feithrin sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r canlynol:
- Mapio digidol
- Darllen a dehongli mapiau
- Eu hardal leol
- Ymdeimlad o le
- Hunanfyfyrio
- Gwerth ac effaith yr arfer o rannu safbwyntiau a phrofiadau unigol gydag eraill
- Syniadau cysyniadol ar gyfer darlunio’u profiadau’n weledol ar fap
Mae hyder y bobl ifanc hyn o ran mynegi eu safbwyntiau a’u profiadau wedi cynyddu’n fawr. Erbyn hyn, maent yn fapwyr hyderus ac maent wedi dechrau dangos i’w cyfoedion ac i bobl eraill sut i greu Umap. Hefyd, maent yn llawn hyder wrth esbonio sut y gellir defnyddio mapiau i lywio penderfyniadau cymunedol a sut y gellir eu defnyddio fel adnodd i lywio dyfodol eu hamgylcheddau a’u cymunedau mewn modd cadarnhaol yn y dyfodol.








