
Nodyn o'r Ystafell - Agoriad

Agorodd Ystafell Wrecsam ei drysau ar y 26ain o Chwefror, gyda chyfres o weithdai creadigol a ddaeth â disgyblion o ysgolion Clywedog a Rhosnesni at ei gilydd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker. Ers hynny, mae’r ystafell wedi bod yn mynd o nerth i nerth.
Wrth galon ein gwaith mae ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc mewn ffordd greadigol ac ystyrlon. Mae dulliau creadigol o weithio yn ein galluogi i edrych ar bethau o safbwynt gwahanol ac yn ein hannog i beidio â dibynnu ar resymeg yn unig, ond i wrando ar ein hemosiynau a’n cyrff wrth feddwl am ein perthynas gyda lle. Mae’r ffordd yma o weithio’n medru galluogi pobl ifanc i fynegi eu profiadau nhw o’u hardal leol mewn ffyrdd mwy cymhleth a phersonol.
Ers y lansiad, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda disgyblion ysgol Blwyddyn 7, 8 a 9 yn ysgolion Rhosnesi a Chlywedog ac aelodau Senedd yr Ifanc Wrecsam. Derbyniodd y bobl ifanc hyfforddiant gan fapwyr arbenigol y Map Cyhoeddus – platfform digidol sydd wedi’i ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf gan dîm Map Cyhoeddus Ynys Môn. Mae’r map hwn yn cynnig ffordd ryngweithiol o fapio profiadau, atgofion a safbwyntiau, gan greu darlun cyfoethog o le sy’n cael ei lywio gan leisiau lleol.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n llunio darn o waith ymchwil ar y cyd gyda disgyblion ysgol a rhaglen ddifyr o ddigwyddiadau i nodi wythnos ryngwladol rhwng cenedlaethau ar ddiwedd mis Ebrill a thrwy gydol y gwanwyn a’r haf.
Yn y cyfamser, mae’r ystafell yn dechrau magu ei hunaniaeth unigryw ei hunan. Diolch i roddion caredig gan gyn-denantiaid Tŷ Pawb, mae’r gofod wedi’i ddodrefnu mewn ffordd sy’n adlewyrchu ysbryd cymunedol yr ystafell. Galwodd yr artist Sophia Leadhill heibio i gyfrannu enghreifftiau o’i gwaith i’w harddangos.
Yn dilyn awgrym gan bobl ifanc yr hoffent weld llyfrgell yn y gofod, mae casgliad bach o lyfrau bellach wedi dechrau tyfu yma, ac ar ddechrau mis Mai byddwn yn cynnal lansiad llyfr Real Wrexham: Becoming the City gan Sara Erddig. Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r bardd Tesni Peers am ganiatâd i atgynhyrchu ei cherdd Enaid Wrecsam, sydd yn cael ei harddangos ochr yn ochr â ffotograffau a dynnwyd gan bobl ifanc lleol.
Mae’r manylion lleiaf yn cynnig cyfleoedd ar gyfer eiliadau o greadigrwydd a chyfaredd. Mae’r casgliad o fapiau hanesyddol sydd ar ddangos yn yr ystafell wedi tanio sawl trafodaeth ddifyr am newid, cof a hunaniaeth lle, ac mae sawl ymwelydd wedi bod wrth eu bodd yn cyfrannu nodyn Post-It at ein map ar-y-gweill o hoff leoedd pobl yn Wrecsam.
Mae’r elfennau hyn yn creu haenau o ystyr sy’n adlewyrchu aml-haenedd y ddinas, ei orffennol a’i bresennol, wrth i droi ein llygaid at y dyfodol, at safle'r ddinas ar restr fer Dinas Diwylliant a llwyddiant y tîm pêl droed. Wrth i'r prosiect ddatblygu, mae hi'n dod yn fwyfwy amlwg beth yw gwerth gweithio’n greadigol gyda phobl ifanc, gan roi'r cyfle i'r lleisiau hynny arwain ac archwilio'r broses o ail-ddychmygu’r berthynas rhwng pobl a lleoedd.