
Y Map Cyhoeddus yn derbyn £3.1 miliwn er mwyn parhau gyda'i waith

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod y Map Cyhoeddus, ynghyd â'r tri prosiect Green Transitions Ecosystems arall wedi derbyn arian pellach o £3.1m gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i barhau gyda'n gwaith dros y 2 ½ blynedd nesaf.
Er bod ffocws ein gwaith yn parhau ar Ynys Môn, bydd yr ariannu yn galluogi'r tîm i ehangu ei weithgareddau y tu hwnt i'r ynys i rannau eraill o Gymru ac i mewn i Loegr. Mae £300k pellach wedi'i ymrwymo i'r prosiect gan Brifysgol Caergrawnt er mwyn ariannu gweithgaredd mapio yng Nghaergrawnt a'r ardal gyfagos drwy Cambridge Room.
Meddai Cadeirydd Gweithredol yr AHRC, Yr Athro Christopher Smith:
“Rydym wrth ein bodd bod Green Transition Ecosystems wedi cael ei adnewyddu ar gyfer ail gam. Mae pob prosiect yn arddangos grym cynllunio wrth ddwyn ynghyd rhanddeiliaid ar draws cymunedau, sectorau a disgyblaethau i ymyrryd mewn heriau trawsnewid gwyrdd systemig. Yn eu hail gam, bydd y prosiectau'n canolbwyntio ar gyflawni deilliannau ar gyfer twf cynaliadwy i'r dyfodol”.
Credyd delwedd i Pearce Plus