Prosiectau Ymchwil

Prosiectau dan arweiniad Mapper sy'n archwilio sut y gellir defnyddio Map Cyhoeddus i symud tuag at ddyfodol mwy gwyrdd.

Stryd Gwyrdd

Mae'r prosiect yma yn archwilio sut y gall strydoedd mawr lleol ffynnu trwy'r economi gylchol, gan fapio busnesau a mentrau cynaliadwy ym Mhorthaethwy ac yn Llantrisant.

Aaliyah Owen-McVey, Maya Lee, Lisa Hudson, Tansy Rogerson
Read more

Traciau Gwyrdd

Nod y prosiect yma yw edrych ar brofiadau pobl o seiclo a theithio llesol ar Ynys Môn, gan greu mapiau manwl i gefnogi cynllunio trafnidiaeth gynaliadwy.

Aaliyah Owen-McVey, Benjamin Jones, Jennifer Willis
Read more

Mapio Hanesyddol

Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol, mae'r prosiect hwn yn adeiladu map aml-haen o ddefnydd tir yn ne-orllewin Môn, gan gyfuno ymchwil archifol â chyfraniad cymunedol.

Dr. Nia Wyn Jones, Dr. Adele Burnett
Read more

Cof Tirwedd

Mae Cofio'r Dirwedd yn gydweithrediad sy'n mapio effaith newid hinsawdd ar dirwedd Niwbwrch, gan gyfuno cofnodion hanesyddol â data cyfredol i ddelweddu'r hyn sydd wedi'i golli a'r hyn sy'n aros.

Dr. Adele Burnett, Dr. Tristian Evans
Read more

Almanac yr Adleisiau

mewn partneriaeth â Cadw

"Hanes amser cylchol ar Ynys Môn" — almanac rhyngweithiol sy'n cofnodi lleisiau a phrofiadau byw lleoedd arbennig ar yr ynys, gan greu haen cof diwylliannol newydd ar y Map Cyhoeddus.

Angharad Owen, Gillian Brownson, Janet Davies
Read more

Seiniau Lle

mewn partneriaeth â Barnardos

Nod y prosiect hwn, dan arweiniad Joe a Tristian, yw ysbrydoli’r aelodau i edrych ar themâu amgylcheddol a lles trwy gerddoriaeth. Byddwn yn eu harwain i ysgrifennu a chyfansoddi eu caneuon eu hunain sy'n sôn am y byd naturiol, materion lleol, a phwysigrwydd gofalu am y blaned. Trwy weithgareddau rhyngweithiol, byddwn yn cyflwyno technegau cyfansoddi caneuon syml, ymarferion adeiladu rhythm, a phrociau creadigol sy'n annog yr aelodau i fynegi eu syniadau mewn ffordd hwyliog a diddorol. Erbyn diwedd y gweithdy, bydd pob grŵp wedi creu darn gwreiddiol sy'n dangos eu dealltwriaeth o stiwardiaeth amgylcheddol. Ein nod yw rhoi’r gallu i bobl ddefnyddio cerddoriaeth fel cyfrwng ar gyfer codi ymwybyddiaeth, mynegi’u hunain a gweithredu’n gadarnhaol yn eu cymunedau. Ar ddiwedd y prosiect, bydd deunyddiau wedi’u creu ar gyfer Pecyn Dysgu i ysbrydoli athrawon i weithio fel hyn yn ogystal â map sy'n cysylltu deilliannau cerddorol y prosiect â lleoedd.

Dr. Tristian Evans, Joe Smith
Read more

Cysylltiadau Cefni

mewn partneriaeth â Caru Cefni & A Grand Week in Wales

Mae'r prosiect yma yn dathlu'r cysylltiadau cyfoethog rhwng pobl ac Afon Cefni, gan fapio'i chwrs o'r ffynhonnell i'r môr trwy adrodd straeon a chyfranogiad cymunedol.

Simone Williams
Read more

Cynllun Gwobr Mapiwr

mewn partneriaeth â Holyhead High School

Bwriad y rhaglen yw creu cymuned gref o fapwyr ifanc mewn ysgolion, gan hyfforddi Llysgenhadon Mapio i gyfrannu at fapiau ffynhonnell agored.

Daniel Hutchinson, Joe Smith, Kim Hutchinson
Read more
Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nid yw’r wefan hon yn defnyddio cwcis ac nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.