
Y Llwyfan Map Cyhoeddus yn llywio trafodaethau ynglŷn â pharodrwydd Cymru i bontio tuag at economi llesiant

Mae’r Llwyfan Map Cyhoeddus wedi cydweithio gydag Economi Llesiant Cymru fel rhan o’i ymchwil i ddeall safbwyntiau pobl ynglŷn â pharodrwydd Cymru i bontio tuag at economi llesiant. Fel rhan o hyn, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau gyda’n tîm Mapio Cymunedol er mwyn clywed sut brofiad yw byw a gweithio/astudio yn eu cymuned, beth yw eu gobeithion a’u hofnau ar gyfer y dyfodol, a’r potensial i droi at economi llesiant.
Mae’r wybodaeth hon wedi cyfrannu at adroddiad ymchwil Economi Llesiant Cymru, sydd ar fin cael ei gyhoeddi, yn ogystal â dwy ffilm a haen ar y Llwyfan Map Cyhoeddus.
Dangoswyd y ffilm fyrraf i gynulleidfa o 600 o bobl a daeth ynghyd yn Abertawe yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd gyntaf Economi Llesiant Cymru. Roedd Kate Raworth, economegydd ac awdur Doughnut Economics, yn y gynulleidfa, yn ogystal â Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Mae’r ffilm hwy yn cyflwyno deialog wedi’i churadu sy’n creu darlun o’r modd y gallai economi llesiant gael effaith gadarnhaol ar fywydau beunyddiol pobl ledled Cymru. Gellir dod o hyd i’r ffilm yma.