
Map Cyhoeddus: helpu i wireddu Economi Lles

Dychmygwch.
Da chi, cymerwch funud.
Caewch eich llygaid.
Anadlwch...
...a dychmygwch fyd lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ynddo yn eu cysur sylfaenol a lle gallant ddefnyddio eu hynni creadigol i gefnogi ffyniant yr holl fywyd ar y blaned hon. Lle rydym yn ffynnu mewn amgylchedd naturiol diogel, bywiog, sydd wedi’i adfer oherwydd ein bod wedi dysgu rhoi yn ôl cymaint â’r hyn rydym wedi’i dderbyn. Lle mae gennym lais dros ein tynged ar y cyd a dod o hyd i lle rydym yn perthyn, ystyr a phwrpas drwy gysylltiad diffuant gyda’r bobl a’r blaned sy’n ein cynnal ni.
Dychmygwch.
Sut beth fyddai hynny yn weledol?
Sut beth fyddai hynny i’w glywed?
Sut fyddai hynny’n ei deimlo?
Mae model economaidd heddiw, yn seiliedig ar echdynnu, gorddefnydd a thwf sy’n cael ei yrru gan elw, yn gyrru’r union argyfwng rydym yn ei wynebu - yr hinsawdd yn methu, anghyfartaledd, rhaniadau cymdeithasol, ac iechyd gwael. Rwy’n credu ein bod angen datgysylltu o’r patrwm economaidd henffasiwn hwn ac ail-ddychmygu system sy’n gwasanaethu pobl a’r blaned - economi lles.
Yn ôl y Gynghrair Economi Lles, mae Economi Lles yn economi sydd wedi’i chynllunio ar gyfer gwasanaethu pobl a’r blaned, nid o chwith. Yn hytrach na thrin twf economaidd fel man gorffen a’i geisio waeth beth fo’r gost, mae Economi Lles syn rhoi ein hanghenion dynol a phlanedol wrth ganol ei gweithgareddau, gan sicrhau bod yr anghenion hyn i gyd yn cael eu bodloni’n gyfartal yn ddiofyn.
Rwyf wedi bod o blaid symudiad i Economi Lles ers amser. Ond un peth yw cefnogi hyn. Sut ydym yn ei wneud yn realiti?
Wrth gwrs, mae newid unrhyw system yn gofyn am agwedd systemig... does yna ddim un peth unigol sy’n debygol o wneud hyn. Pe bai yna, efallai y byddem wedi ei wneud erbyn hyn. Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae.
Rwy’n falch o fod yn Gyd-ymchwilydd ar brosiect ymchwil gwych y Map Cyhoeddus. Wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac yn rhan o Arsyllfa’r Dyfodol yr Amgueddfa Ddylunio, ei bwriad yw dangos bod system gynllunio dryloyw a dibynadwy yn seiliedig ar fapiau ac wedi’i chreu gan y gymuned ac ar gyfer y gymuned, yn wirioneddol bosibl.
I mi, mae’r Map Cyhoeddus yn siarad gyda’r agenda Economi Lles ac mae’n adnodd ymarferol a chyfres o arferion sy’n cyfrannu at newid y system.
Ym mha ffordd?
Wel, mae’r Map Cyhoeddus yn llwyfan a hefyd yn ddull.
Gan ddefnyddio technolegau mapio agored am ddim, rydym wedi adeiladu llwyfan sy’n arddangos data gweinyddol ac wedi’i greu gan y gymuned mewn cyfres o haenau mapiau y gellir eu troi ymlaen a’u diffodd. Mae plant a phobl ifanc wedi dylunio’r symboliaeth - eu ffyrdd o gynrychioli sut maent yn gweld, meddwl neu deimlo ynghylch pethau orau. Data wedi’i arddangos yn ystyrlon.
Mae’r llwyfan yn storfa weledol o ddata gofodol. Er bod hyn yn agwedd gwirioneddol bwysig o’r Map Cyhoeddus, mae ein gwaith ymgysylltu gyda chymunedau a’u cael yn rhan o gynhyrchu data cymunedol yn galluogi’r llwyfan i fod yn gyfoethog o ran sylwadau craff.
Daw’r cyfoeth ar ffurf amrywiaeth a natur y data a’r dulliau rydym wedi bod yn eu defnyddio. Rydym wedi ymgysylltu gydag ysgolion, cymunedau a sefydliadau mewn ffyrdd llawn hwyl, creadigol a chynhwysol. Tynnu ar ddychymyg pobl drwy gelf, barddoniaeth, perfformio, ffotograffiaeth, ymgysylltu aml-synhwyraidd, hanes llafar, gweithgareddau chwareus, dysgu yn yr awyr agored a mynegiant...popeth dan haul!
Gofodau er mwyn i bobl rannu eu profiadau, gan alluogi dealltwriaeth ddofn, a’u darparu â’r technegau a'r dulliau i gasglu data a chreu mapiau sy’n adlewyrchu eu cyd-destun a’u pryderon hwy eu hunain, mae’r prosiect yn eu cefnogi i ddeall a mynd i’r afael â’r materion hyn mewn ffordd holistig.
Mae’r llwyfan a’r dulliau yn gyfryngau gweithredu.
I mi, mae Economi Lles yn rhan annatod o’r Map Cyhoeddus!
Gan edrych ar bum dimensiwn Economi Lles - tegwch, pwrpas, cyfranogiad, urddas, a natur, mae’r Map Cyhoeddus o ran ei ddull ac fel adnodd yn gallu ein helpu ni i feddwl a gweithredu yn y ffordd yma.
Tegwch. Mae ein dulliau cynhwysol a’n defnydd o dechnolegau agored yn rhoi gwedd ddemocrataidd ar gasglu a dadansoddi data. Mae’n galluogi i bawb (nid dim ond yr ychydig rai) i fod â llais a sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar ddealltwriaeth holistig o gymunedau yn eu holl gyfoeth.
Diben. Yn yr un modd, mae ein dulliau cynhwysol yn galluogi dealltwriaeth holistig o gymunedau ac o hyn, ddealltwriaeth gydag ymdeimlad cyffredin o fod yn perthyn. Mae hyn yn helpu ein sefydliadau i wasanaethu er lles pawb.
Cyfranogiad. Mae’r Map Cyhoeddus wedi’i sylfaenu ar yr egwyddor o ddinasyddion yn cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau a’r penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae mapio - yn ei holl amrywiaeth - yn galluogi i hyn ddigwydd.
Urddas. Drwy i bawb gael dealltwriaeth holistig o gymunedau, gobeithir bod penderfyniadau a gweithredoedd yn sicrhau bod gan bawb ddigon i fyw’n gyfforddus, yn ddiogel ac yn hapus. Mae ein mapio cymdeithasol a diwylliannol yn helpu gyda hyn.
Byd natur. Fel rhan o Arsyllfa’r Dyfodol yr Amgueddfa Ddylunio ar gyfer trawsnewid gwyrdd, mae byd natur ac ymddygiadau trawsnewid gwyrdd yn ganolog i’r Map Cyhoeddus. Mae nifer o’n gweithgareddau’n seiliedig ar fyd natur, ac wedi’u lleoli ym myd natur, ac mae gennym ffrwd o waith o amgylch mapio amgylcheddol.

Rydym wedi gwneud penderfyniad bwriadol fel bod y Map Cyhoeddus wedi’i fwriadu ar gyfer cefnogi rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar Waith. O wneud hynny, mae hefyd yn siarad gyda phatrwm economaidd synergeddol y Ddeddf, Economi Llesiant.
Rwy’n credu ein bod angen gwneud dewisiadau economaidd gwahanol - lle rydym yn newid i Economi Llesiant. Pam? Oherwydd bod pethau wedi’u rhyng-gysylltu. Me ein lles yn cael ei benderfynu gan ba mor ddiogel rydym ni’n teimlo, safon ein tai, gwaith teg, ein hiechyd, ein perthynas gyda byd natur, p’un a allwn ddylanwadu ar ein tynged. Gall y Map Cyhoeddus helpu gyda hyn.
Felly, pwy sydd am fod yn ofalwr ac yn greawdwr byd sy’n ffynnu?
Oes?
Ewch ati i fapio!