Cerdyn Post o Fôn.
Fel Bardd ar y Platfform Map Cyhoeddus, cefais y cyfle i ystyried sut y gallai fy arfer ymchwilio creadigol fy hun fwydo mewn i strwythur ymchwilio mwy sylweddol a ffurfiol, wrth greu prosiect o fewn prosiect trwy Lle Llais a’r bobl wnaeth ymweld ag ef.
Wrth i Lle Llais grwydro o gwmpas yr Ynys dros yr haf, fe grwydrais i gydag ef, gan gyfarfod pobl o bob oedran, a’u gwahodd i greu cerdyn post o le da ar yr ynys. Roeddwn wedi fy lleoli o fewn un o’r strwythurau pren plyg, gan wehyddu’r cardiau i mewn i’r gwŷdd fel iddynt gael eu creu. I ddechrau, roedd y gwŷdd yn edrych yn dila, ychydig gardiau’n chwifio yn yr awel, ond wrth i’r daith Lle Llais fynd yn ei blaen, fe dyfodd nifer y cardiau’n fwy ac yn fwy, gan greu, nid yn unig strwythur yn berwi ag atgofion teuluoedd, ond hefyd rhestr anferth o leoedd ar yr ynys y mae plant a theuluoedd yn hoff ohonynt.
Roedd y gweithgaredd cerdyn post yn hynod boblogaidd, a daeth yn weithgaredd i’r teulu oll, gan ennyn sgyrsiau rhwng rhieni a’u plant ynglŷn â’r lleoedd y maent yn eu caru.
Daeth pob cerdyn post yn giplun o atgof teuluol. Roedd llawer yn canolbwyntio ar draethau, pethau fel casglu gwydr môr, padlfyrddio, bwyta hufen ia a nofio. Mae’r traethau’n bwysig i’r rhai sy’n dod ar eu gwyliau wrth gwrs, ond maent hefyd yn bwysig i’r trigolion lleol sy’n mynd yno pan ddaw’r haf i ben, i fynd a’u cŵn am dro a chael awyr iach pan mae hi’n oer ac yn llwm ac yn aeafol.
Roedd rhai pobl yn teimlo’n ansicr pan ofynnais iddynt a oeddent yn lleol i Ynys Môn. Fe wnes i gyfarfod pobl o ddinasoedd agos yn Lloegr, fel Lerpwl neu Fanceinion, sy’n dod i Ogledd Cymru, nid yn unig pob gwyliau, ond pob penwythnos pan fyddant yn gallu. Fe wnaethon nhw rannu â mi eu bod yn teimlo fod Ynys Môn yn rhan ohonynt ac yr un mor bwysig i’w bywydau ac i stori eu teulu â lle maent yn byw.
Roedd rhai cardiau post yn adrodd straeon hirach, fel y ferch ifanc a ddywedodd mai Tafarn yr Iorwerth yw ei hoff le ar Ynys Môn. Pan ofynnais iddi a oedd hi’n mynd i’r dafarn yn aml, esboniodd fod pob math o bethau’n digwydd yn y dafarn. Datgelodd sgwrsio pellach mai tafarn gymunedol yw Tafarn yr Iorwerth ym Mryngwran. Ynghyd â’r bar a’r bwyty trwyddedig, mae hwb cymunedol sy’n cynnig gweithgareddau a chefnogaeth i bobl o bob oedran yng nghanol y pentref.
Un diwrnod, mi wnes i dderbyn cerdyn post yn dangos Ysgol Uwchradd Caergybi, gyda rhestr o resymau ar y cefn pam ei fod yn le da.
Fy hoff le yw fy ysgol. Mae gormod o resymau i’w rhestru.
- Mae pobl yn hoff ohonof yno
- Rwy’n mwynhau dysgu
- Gallaf ddysgu am brofiadau pobl eraill
Mi wnaeth y ffaith fod Ysgol Uwchradd Caergybi yn gallu gwneud i rywun deimlo fel hyn godi fy nghalon.
Dros 16 diwrnod yn ystod gwyliau’r haf, mewn pedwar tirwedd hollol wahanol, mi wnes i gasglu tua 200 o gardiau post gan grwpiau amrywiol a ddaeth i'r digwyddiadau Lle Llais. Mae’r lleoedd da Ynys Môn wedi’u cofnodi ac maent yn cynnwys mannau hardd, atyniadau, gerddi, parciau sglefrfyrddio, meysydd chwarae, traethau cudd a llawer mwy. Maent yn adrodd straeon bywydau wedi’u treulio wrth y môr, wedi’u lliwio gan y dirwedd, cymuned ac ymdeimlad o gynefin sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol.
Ac ynghylch y map. Daw’r cardiau post yn haen o atgofion hapus yn y fan a’r lle. Fe wnaeth pobl ateb drostynt eu hunain yn y fan a’r lle, cofnod o haf 2024, sy’n atgof ynddo’i hun wrth i’r dydd fyrhau. Mae’r cardiau’n dogfennu’r lleoedd oedd ar feddwl ac yng nghalon pobl eleni, ac maent yn gychwyn i restr o leoedd i’w chadw a’i chynnal ar gyfer y dyfodol.
Rwyf yn artist sy’n ymwneud â’r gymuned, wedi fy lleoli ym Methesda, ar drothwy Eryri. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar ystyried y berthynas rhwng pobl, lleoedd a phethau drwy ymgysylltu creadigol ac anogaeth ysgafn sy’n sbarduno sgyrsiau, a mapio personol a chydweithredol fel ffordd o wneud synnwyr o bethau.